Llanrwst fydd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Llanrwst fydd lleoliad yr 诺yl ymhen dwy flynedd yn 2019.
Daeth y cyhoeddiad wrth i Gyngor yr Eisteddfod gwrdd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Erbyn 2019 bydd 30 mlynedd wedi pasio ers i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn Llanrwst nol yn 1989 pan enillodd Selwyn Iolen y Goron ac Idris Reynolds y Gadair.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts fod "pawb yn edrych ymlaen i ddychwelyd i ardal a fu'n gartref arbennig i'r 诺yl nol yn 1989."
Arian yn weddill o F么苍
Mae cadarnhad eisoes wedi bod mai Trystan Lewis, sydd yn wreiddiol o Ddeganwy ac yn adnabyddus fel cerddor a dyn busnes, sydd wedi cael ei benodi yn gadeirydd y pwyllgor
Catherine Jones, sy'n athrawes yn Ysgol Glan Clwyd, yw Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.
Fe wnaeth y Cynghorydd Gareth Jones, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, groesawu'r newyddion gan ddweud: "Rydym wrth ein bodd y bydd Eisteddfod 2019 yn cael ei chynnal ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
"Hoffem longyfarch Llanrwst am gael ei dewis i gynnal y digwyddiad cenedlaethol hwn.
"Byddwn yn cefnogi Pwyllgor yr Eisteddfod gyda'u trefniadau dros y deunaw mis nesaf wrth iddynt baratoi eu digwyddiad."
Yn ogystal 芒 chyhoeddi lleoliad 2019, clywodd Cyngor yr Eisteddfod fod yr 诺yl yn Ynys M么苍 eleni wedi gadael gweddill o 拢93,200.
Eisteddfod 'wahanol' Caerdydd
Ychwanegodd Elfed Roberts, "Mae heddiw'n gyfle i edrych yn 么l ar yr wythnos ym Modedern ddechrau Awst eleni.
"Er y tywydd gwael ar y penwythnos cyntaf, roedd hi'n Eisteddfod gofiadwy, ac mae ein diolch ni'n fawr i drigolion M么苍, ein gwirfoddolwyr arbennig a'n hymwelwyr am hynny.
"Roedd t卯m Ynys M么苍 yn benderfynol o gyrraedd nod y Gronfa Leol, a dyna a wnaethpwyd, a'i basio o bron i 拢90,000 erbyn diwedd wythnos yr Eisteddfod.
"Llwyddwyd i wneud hyn dan arweiniad gofalus a threfnus Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Haydn Edwards, ynghyd 芒 phwyllgorau lleol hynod weithgar a llawn syniadau, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw oll am eu gwaith."
Wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2018 dywedodd Mr Roberts yn y cyfarfod bod "edrych ymlaen" at 诺yl fydd yn "wahanol"
"Rydym yn edrych ymlaen at gael defnyddio cyfuniad o adeiladau eiconig y Bae, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm a'r Senedd, ynghyd 芒'r strwythurau deniadol dros-dro, sy'n gysylltiedig gyda'r Eisteddfod erbyn hyn.
"Fe fydd yn wahanol yn ddi-os, ond fe fydd yn sicr yn dal i deimlo fel Eisteddfod."
Ceir rhagor o wybodaeth a chopi o adroddiad gwerthuso Eisteddfod Ynys M么苍, ynghyd 芒 holl ganlyniadau'r wythnos ar wefan yr Eisteddfod,
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2017