'Risg gwirioneddol' prinder meddygon canser arbenigol
- Cyhoeddwyd
Mae "risg gwirioneddol" i ddyfodol gwasanaethau canser yng Nghymru o ganlyniad i brinder sylweddol meddygon arbenigol, yn 么l Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (CBR).
Mae ymchwil gan y sefydliad ddangos mai dim ond tri meddyg canser ychwanegol sy'n gweithio yng Nghymru o'i gymharu 芒 phum mlynedd yn 么l, tra bod cyfraddau canser a'r galw am driniaeth wedi cynyddu'n sylweddol yn yr un cyfnod.
Dyma'r cynnydd lleiaf mewn unrhyw wlad yn DU ac mae'r ymchwil hefyd yn dangos聽fod cyfran swyddi gwag ymhlith oncolegwyr ymgynghorol yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i wella lefelau recriwtio.
Ychwanegoedd y bydd cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yn barod erbyn diwedd y flwyddyn.
'Swyddi'n wag'
Mae oncolegwyr yn feddygon sy'n trin canser drwy ddulliau radiotherapi, cemotherapi ac imiwnotherapi.
Mae'r CBR yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y diffyg ac ymateb drwy gyllido rhagor o lefydd hyfforddi i feddygon canser iau.
Yn 么l Dr Martin Rolles, arweinydd canser y CBR yng Nghymru, mae'r "prinder arbenigwyr canser yng Nghymru yn risg gwirioneddol ar gyfer y dyfodol".
"Mae swyddi yn gyson yn wag, a does dim llawer o obaith eu llenwi o wledydd eraill oherwydd y prinder sydd ar draws y DU," meddai.
"Mae Cymru i raddau yn llwyddo i gadw meddygon ymgynghorol ar 么l iddyn nhw gwblhau eu hyfforddiant, ac mae hyfforddiant yng Nghymru yn cael ei werthfawrogi.
"Felly byddai buddsoddi mwy yn yr hyfforddiant hwnnw yn gam synhwyrol, yn enwedig o ystyried ei bod yn cymryd wyth mlynedd i hyfforddi i fod yn ymgynghorydd."
Cynnydd lleiaf yn y DU
Mae'r ymchwil yn dangos mai 47 o feddygon ymgynghorol oedd yn gweithio yn y tair canolfan ganser arbenigol yng Nghymru yn 2018 - sy'n cyfateb i 42 o ymgynghorwyr llawn amser, gan fod rhai yn gweithio'n rhan-amser.
Mae hynny'n gynnydd o dri meddyg llawn amser yn unig (7.7%) ers 2013 - y cynnydd lleiaf o unrhyw wlad yn y DU dros bum mlynedd.
Yn yr un cyfnod fe welodd Lloegr gynnydd o 141 (24.5%), Yr Alban 17 (25.4%) a bu cynnydd o 11 (55%) yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos fod gan Gymru gyfran uwch o swyddi gwag ymhlith oncolegwyr ymgynghorol.
Y gyfradd swyddi gwag ledled y DU yw 7%, o'i gymharu 芒 12% yng Nghymru.
Mae'r problemau'n bodoli er bod hyfforddiant oncoleg yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei ystyried ymhlith y gorau yn y DU, gyda mwy o feddygon iau yn ymgeisio bob blwyddyn i hyfforddi na sydd o lefydd ar gael.
Oni bai bod mwy o lefydd, mae'r CBR yn dadlau na fydd modd cyflenwi digon o ymgynghorwyr i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac na fydd modd ateb y galw cynyddol am ofal.
Mae ystadegau swyddogol Llywodraeth Cymru yn dangos fod nifer y bobl sydd wedi cael eu cyfeirio am brofion oherwydd bod amheuaeth o ganser wedi cynyddu 154.8% yn y ddegawd hyd 2017/18, a bod nifer y cleifion sydd wedi dechrau triniaeth am ganser yn ystod yr un cyfnod wedi codi 68.2%.
'Argyfwng staffio'
Bydd y twf yn y galw yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Er enghraifft, mae elusen ganser Macmillan yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru bron yn dyblu yn y 10 mlynedd nesaf o 130,000 i 250,000 erbyn 2030.
Mae'r pryderon am brinder oncolegwyr yn adleisio pryderon blaenorol am brinder difrifol radiolegwyr yn y gwasanaeth iechyd.
Yn 么l un meddyg oncolegol dan hyfforddiant, Rhiannon Evans, mae lle i gynyddu'r nifer o gyfleoedd hyfforddi i ateb y galw, gyda'r sefyllfa fel y mae hi yn effeithio ar staff a chleifion fel ei gilydd.
"Does dim digon o ymgynghorwyr gyda ni yn yr adran oncoleg yng Nghymru ac mae hynna'n cael effaith arnon ni fel unigolion ac fel adran, mwy o bwysau gwaith ac ati, ond wrth gwrs mae e hefyd yn effeithio ar gleifion," meddai.
"Mae'n golygu does gyda ni ddim gymaint o amser ag y hoffen ni dreulio gyda nhw ac i sicrhau bo nhw'n cael y gofal gorau posib."
Y tu hwnt i Gymru mae'r CBR yn poeni fod gwasanaethau canser ledled y DU yn wynebu "argyfwng staffio", gyda meddygon canser yn gweithio oriau ychwanegol i ateb y galw a llawer yn ymddeol yn gynnar.
Yn 么l arolwg y Coleg mae gan un o bob chwe chanolfan ganser ledled y DU lai o ymgynghorwyr oncoleg glinigol heddiw na phum mlynedd yn 么l.
'Risg go iawn i'r dyfodol'
Ond er gwaethaf pryderon, dywedodd Dr Rolles fod gan Gymru lawer i ymfalch茂o ynddo o ran ansawdd gofal ac ymchwil canser.
"Mae'r tair canolfan ganser yng Nghymru yn cydweithio'n agos - mae'n rhaid iddyn nhw wneud," meddai.
"Mae technoleg gwybodaeth wedi ein galluogi i gyflwyno datblygiadau arloesol fel unedau cemotherapi dan arweiniad nyrsys mewn ysbytai lleol, wedi'u goruchwylio gan y prif ganolfannau.
"Mae gan y wlad lawer i fod yn falch ohono o ran ymchwil canser a chymhwyso technegau triniaeth newydd.
"Fodd bynnag, er y dylid dathlu hynny, mae ein prinder arbenigwyr canser yn peri risg go iawn i'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2019