Cymru'n gwario £4m ychwanegol ar baratoadau Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn gwario £4m ychwanegol ar gyfer y paratoadau i adael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer "argyfyngau sifil posibl" oherwydd Brexit.
Bydd £500,000 yn cael ei roi i helpu "fforymau cydnerthedd lleol" ar gyfer argyfyngau sifil posib "wneud eu gwaith o ran y trefniadau cománd, rheoli a chydlynu ar gyfer Operation Yellowhammer yng Nghymru".
Ymgyrch Yellowhammer yw enw Trysorlys y DU ar gyfer y gwaith paratoi rhag ofn bydd Prydain yn gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Bydd yr arian yn helpu cydlynu "unrhyw ymateb brys yn ystod y cyfnod ymadael pan fydd angen gweithredu mewn sawl maes ar yr un pryd, o bosibl".
Ymhlith y cynlluniau eraill mae £500,000 i helpu dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd yn byw yng Nghymru, i wneud cais am statws sefydlog i fyw yn y DU.
'Ansicrwydd'
Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i Weinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, ymweld â Senedd Ewrop yn Strasbourg i "egluro safbwynt Cymru" ynglŷn â gadael yr UE.
Yn ôl Mr Miles: "Llai na thair wythnos sydd i fynd tan y diwrnod pan ydyn ni i fod i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a dydyn ni ddim callach ynglŷn â sut mae hynny'n mynd i ddigwydd.
"Mae'n rhaid i'r ansicrwydd hwn ddod i ben. Mae'n hen bryd i Brif Weinidog a Senedd y DU ddangos eu bod wedi gwrando ar rybuddion Seneddau Cymru a'r Alban.
"Fe ddylen nhw ddiystyru ymadael heb gytundeb a gofyn am estyniad i Erthygl 50 ar unwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019