91热爆

1,000 o blant yn dechrau'r ysgol yn 'ddifrifol o ordew'

  • Cyhoeddwyd
plentynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gordewdra difrifol Cymru yn lawer uwch i gymharu 芒 Lloegr a'r Alban

Mae dros 1,000 o blant Cymru yn dechrau'r ysgol yn "ddifrifol o ordew", yn 么l y ffigyrau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Am y tro cyntaf mae categori ar gyfer plant pedair a phump oed sydd yn ddifrifol o ordew wedi ei gynnwys.

Dangosa'r ffigyrau bod 3.3% o blant yn y categori difrifol, sefyllfa sy'n cael ei ddisgrifio fel un "hynod bryderus" gan ICC.

Roedd y ffigyrau uchaf ymysg bechgyn mewn ardaloedd difreintiedig.

Nid oes diffiniad swyddogol o beth yw plentyn difrifol o ordew, ond mae adroddiad ICC yn awgrymu bod unrhyw blentyn sydd yn drymach na 99.6% o blant yr un oed yn disgyn i'r categori.

Dywedodd Lucy O'Loughlin, ymgynghorwr gyda ICC, bod yr adroddiad yn tynnu sylw at yr anghydraddoldeb ymysg plant, gan bod cyfraddau gordewdra llawer uwch mewn ardaloedd difreintiedig.

  • Mae gordewdra difrifol ar ei uchaf ym Merthyr Tydfil (5.7%) ac ar ei isaf ym Mro Morgannwg (1.7%).

  • 1,065 o blant sydd yn y categori difrifol.

  • 598 (3.6%) o'r rhain sy'n fechgyn tra bod 467 (3%) yn ferched.

  • Roedd gordewdra difrifol Cymru yn lawer uwch o'i gymharu 芒 Lloegr (2.36%) a'r Alban (2.7%).

  • 26.4% o blant Cymru sydd yn ordew, o'i gymharu 芒 22.4% yn Lloegr.

Ychwanegodd Ms O'Loughlin: "Nid yw lefelau gordewdra Cymru yn gwella, ac mae hi'n bryderus iawn bod plant mor ifanc 芒 phedair oed yn ddifrifol o ordew.

"Rydyn ni eisoes yn gwybod bod plant sy'n ordew yn fwy tebygol o fynd yn fwy wrth fynd yn h欧n," meddai.

Daw'r adroddiad wrth i Lywodraeth Cymru drafod ei strategaeth gyntaf i geisio mynd i'r afael 芒 gordewdra - Pwysau Iach: Cymru Iach.

Dywedodd ICC hefyd bod angen i rieni frwydro yn erbyn dylanwad hysbysebion ac ati er mwyn lleihau faint o fwydydd melys sy'n cael eu bwyta gan blant.