Dafad yn rhoi genedigaeth i bump oen yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr wedi son am ei sioc ar 么l i ddafad ar fferm yng Ngheredigion roi genedigaeth i bump oen - a rheiny i gyd yn fyw.
Cafodd yr 诺yn eu geni ar fferm Coedmore Hall yng Nghellan, ger Llanbedr Pont Steffan yn gynnar ddydd Mawrth.
Er mor anghyffredin ydy hi i gymaint o 诺yn oroesi'r un enedigaeth dywed y perchennog, Emily Jones taw dyma'r eildro i hyn ddigwydd ar y fferm.
Ond dywedodd wrth 91热爆 Cymru na allai gynnig unrhyw esboniad ynghylch y peth: "Alla'i byth 芒 ateb chi biti 'ny."
Unwaith mewn oes
Dafad Texel wedi ei chroesi yw'r fam. Dyma'r trydydd tro iddi wyna, ond roedd eisoes wedi rhoi genedigaeth i bedwar oen ddwy flynedd yn 么l.
Dywedodd Ms Jones bod y sgan arferol wedi amlygu pump oen y tro hwn "ond o'n ni'm yn gw'bod a fydden nhw'n byw i gyd".
"O'dd tri wedi dod [yn naturiol] a tynnon ni'r ddou dwytha."
Ar 么l cael colostrum yn y lle cyntaf i roi'r cychwyn gorau posib i'r 诺yn, mae'r fam bellach wedi gallu bwydo'r tri gwryw a dwy fenyw ei hun.
"Maen nhw'n sugno am yn ail," meddai Ms Jones. "Maen nhw yn llond eu boliau a ma' nhw'n dilyn y ddafad rownd y lloc."
Dywedodd mai chwe blynedd yn 么l oedd achos cyntaf y fferm o ddafad yn esgor o bump oen byw.
'Anghyffredin iawn'
Eglurodd y milfeddyg o Bwllheli, Malan Hughes, nad oedd hi wedi gweld digwyddiad o'r fath yn ei hardal hi.
Dywedodd ei fod yn ddigwyddiad "anghyffredin iawn".
"Ond maent yn fach felly mae'n si诺r bod y ddafad yn eu geni yn hawdd," meddai.
"Mi fyswn yn meddwl bod y survival rates yn fach iawn iawn!"