Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd am y tro cyntaf yn Siambr y Cynulliad ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn.
Mae'r 60 aelod, sydd rhwng 11 a 18 oed, yn cynrychioli 40 o etholaethau ac 20 o sefydliadau ac elusennau.
Bydd pob aelod yn cael dau funud i annerch y siambr ar unrhyw bwnc o'u dewis nhw.
Bydd pleidlais yn cael ei gynnal yn ddiweddarach lle mae cyfle i aelodau ddewis pa dri phwnc fydd y senedd yn canolbwyntio arnynt yn ystod ei gyfnod cyntaf.
Dywedodd Talulah Thomas o Langollen, yr aelod dros Dde Clwyd, ei bod hi'n bwysig "creu pont rhwng y Senedd a phobl ifanc."
"Mae hi'n bwysig ein bod ni'n cael y cyfle i ddweud ein barn," meddai.
Yn 么l Caleb Rees o Landysul, aelod Ceredigion, mae'n "anrhydedd cael cynrychioli fy ardal a sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed."
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwraig y Cynulliad, fod "hyn yn benllanw misoedd a blynyddoedd o waith".
"Rydym ni'n meddwl y bydd gwrando ar bobl ifanc yn gwella'r penderfyniadau fydd yn digwydd yn y senedd hefyd.
"Rhan o'r hyn rydyn ni'n ei drafod yw sut yn union ydyn ni'n mynd i ddod 芒'r ddwy senedd ynghyd."
Ychwanegodd: "Mi fydd yna gyfarfodydd ar y cyd ac mae'n bosib y bydd modd i'r Senedd Ieuenctid fwydo eu syniadau i rai o bwyllgorau'r cynulliad. Bydd hyn i gyd yn cael ei drafod gyda nhw yn ystod y sesiwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2018
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd28 Awst 2018