91热爆

Allai sianel deledu newydd fel Yr Alban weithio i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Sianel Alban
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd rhaglen 'The Nine' yn dechrau nos Lun

Mae darlledu'r newyddion am naw o'r gloch yn hen hanes i wylwyr S4C. Ond fe fydd cynulleidfa teledu'r Alban yn cael profiad o'r newydd o ddydd Llun wrth i raglen 'The Nine' ddod i fodolaeth.

Ar sianel newydd 91热爆 Scotland bydd y rhaglen awr o hyd yn cael ei darlledu bob nos, gan gyfleu straeon mawr y byd drwy lygaid Albanaidd.

Ar yr un pryd, mae 'na bryderon am nifer y gwylwyr i'r unig sianel Gaeleg, tra bod rhai yng Nghymru yn gweld esblygiad 91热爆 Scotland fel cyfle i ofyn eto pam nad oes rhywbeth tebyg yn dechrau darlledu yma?

Tra bod y sianel newydd yn dechrau nos Sul, bydd rhaid aros tan 21:00 nos Lun i weld Rebecca Curran a Martin Geissler yn cyflwyno'r rhifyn cyntaf.

'Tipyn o graffu'

Fe eglurodd Rebecca Curran pam bod angen rhaglen newyddion arbennig ar Yr Alban.

"Mae cymaint yn digwydd [yn y byd] ar hyn o bryd, a dwi'n credu bod pobl eisiau tiwnio fewn i weld pam bod hyn oll o bwys i rywun fel nhw, rhywun sy'n byw yn Yr Alban," meddai.

Ers blynyddoedd mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr yn Yr Alban wedi galw ar y 91热爆 i newid strwythur newyddion 18:00 91热爆 One i greu'r 'Scottish Six' - rhaglen awr o hyd sy'n plethu newyddion o'r Alban, y DU a'r byd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Martin Geissler a Rebecca Curran yw cyflwynwyr 'The Nine'

Cynyddodd y galw yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth, ble roedd cryn dipyn o feirniadaeth o'r 91热爆 gan gefnogwyr annibyniaeth.

I rai ohonynt mae creu'r rhaglen 21:00, ar sianel arbennig, dal yn bell o'r freuddwyd wreiddiol o newid amserlen a strwythur y newyddion ar brif sianel y wlad. Ac mae'r cyflwynwyr yn cydnabod hynny.

Dywedodd Rebecca Curran: "Yn amlwg bydd tipyn o graffu ar ein gwaith ni, ac ry'n ni'n credu bod hynny'n peth da.

"Mae pob un ohonom ni, i fyny yn yr ystafell newyddion, yn mynd i fod yn andros o ddiduedd, a dydy ni methu aros i ddechrau darlledu."

'Sicrhau adnoddau'

Yng Nghymru mae'r gwahaniaeth rhwng beth mae'r 91热爆 yn cynnig yn y ddwy wlad wedi dod yn amlwg unwaith eto.

Mae'r AC Plaid Cymru Delyth Jewell, sydd hefyd yn aelod o'r pwyllgor diwylliant, wedi tynnu sylw at feirniadaeth rhai gwylwyr o raglen gomedi 'Pitching In.'

Dwedodd bod cynulleidfaoedd yng Nghymru yn "methu deall pam fod Yr Alban yn cael sianel newyddion newydd sbon, ond ein bod ni yn gorfod bodloni 芒 drama wael, nawddoglyd".

Mae Ms Jewell yn dadlau bod diffyg ymwybyddiaeth am faterion datganoledig yn profi'r angen am wasanaeth tebyg, ac mai'r bygythiad o annibyniaeth sydd wedi "sicrhau adnoddau ychwanegol" i'r Alban.

Ond dydy'r awydd ddim yn bodoli i greu sianel Gymreig debyg, yn 么l pennaeth 91热爆 Cymru.

Mewn cynhadledd cyfryngau yng Nghaerdydd dywedodd Rhodri Talfan Davies bod gan y gynulleidfa Gymreig ymrwymiad arbennig at 91热爆 One.

Roeddynt wedi galw'n gryf am fuddsoddi mewn dram芒u, comed茂au a rhaglenni ffeithiol yn hytrach na rhagor o raglenni newyddion a materion cyfoes.

"O'n nhw eisiau gweld mwy o raglenni ar ei hoff sianeli, ac yn achos Cymru, dyna 91热爆 One," meddai Mr Talfan Davies.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Rhodri Talfan Davies bod gan y gynulleidfa Gymreig ymrwymiad arbennig at 91热爆 One

Dywedodd bod 91热爆 Cymru wedi cynyddu'r hyn maen nhw'n talu am bob awr o raglen, ac wedi canolbwyntio ar ddram芒u o safon uchel.

"Yr her gyda sianel [newydd] yw eich bod chi'n gorfod ei llenwi hi, bob dydd a phob awr.

"Mae hynny'n gyrru'r gost yr awr i lawr. O'n i'n meddwl mai'r ateb iawn yng Nghymru oedd i fynd am y syniadau mawr, y prosiectau mawr, ac yn rhaglenni fel Keeping Faith a Hidden rydyn ni wedi gweld ffrwyth hynny."

'Her anferth'

Does dim angen mynd yn bell am air o gyngor i'r sianel newydd. Lawr llawr yn swyddfeydd y 91热爆 yng Nglasgow mae rhai o staff 91热爆 Alba.

Ar yr awyr ers 10 mlynedd, mae nifer gwylwyr y sianel Gaeleg wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Achos yn yr oes newydd o wylio ar-alw a thrwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, mae cyrraedd cynulleidfa drwy sianel draddodiadol yn heriol dros ben.

Donald Campbell ydy prif weithredwr y gwasanaeth gaeleg, ac mae'n cydnabod bod llwyddo i ddenu cynulleidfa'n anoddach fyth i 91热爆 Alba.

"Dwi'n credu bod hi'n her anferth. Dwi'n credu bod hi'n anoddach fyth i sianeli mewn ieithoedd lleiafrifol... nid yn unig gan eu bod yn trio delio 芒'r newid mewn patrymau gwylio, ond hefyd dylanwad anferth yr iaith Saesneg."

Nifer y gwylwyr i'r Nine fydd yn profi os ydy'r her wedi llwyddo. Ac fe fydd ymgyrchwyr a darlledwyr Cymreig hefyd yn dilyn hanes y gwasanaeth newydd, rhag ofn bod gwersi i'w dysgu.