91热爆

Disgyblion ym mhrotest newid hinsawdd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Protest newid hinsawdd Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r protestwyr y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd

Mae disgyblion wedi gadael eu gwersi i brotestio y tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd.

Roedden nhw ymhlith degau o filoedd o ddisgyblion i wrthdystio ar draws Prydain, gan ddilyn esiampl y ferch 16 oed o Sweden, Greta Thunberg.

Ddiwedd haf diwethaf, fe benderfynnodd hithau i beidio mynd i'r ysgol bob dydd Gwener a phrotestio y tu allan i senedd Sweden, ac mae hynny wedi ysgogi protestiadau tebyg mewn nifer o weledydd eraill.

Dywedodd disgyblion o Ysgol Glan Taf, Caerdydd cyn ymuno 芒'r brotest bod colli gwersi yn dwyn mwy o sylw i fater sydd o bwys mawr i bobl ifanc.

Ar raglen Post Cyntaf, dywedodd Ffion a Betsan - dwy chwaer - eu bod i wleidyddion wneud mwy i arafu newidiadau "sy'n digwydd rwan" ac sy'n mynd i "effeithio ar ein cenhedlaeth ni yn benodol, mewn gwirionedd".

Mae'r protestiadau, meddai'r ddwy, wedi eu hanelu at holl lywodraethau'r byd yn sgil rhybuddion arbenigwyr ynghylch effeithiau tebygol newid hinsawdd.

"Wrth beidio mynd i'r ysgol, mae o'n profi bod ni'n credu'n gryf yn hwn," meddai Ffion. "Os fysan ni'n jyst yn [protestio] ar benwythnos, neith o ddim dod 芒 gymaint o sylw at y mater.

"Mae Greta Thunberg yn dangos bod dim ots faint oed 'dach chi, 'dach chi'n gallu 'neud gwahaniaeth," meddai Ffion.

Ychwanegodd Betsan: "Fel nath Greta Thunberg dd'eud, does na'm pwynt mynd i ysgol os fydd na'm dyfodol i ni beth bynnag."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Eoghan Walsh bod o'n teimlo cyfrifoleb i roi cyfle i ddisgyblion Ysgol Gynradd Radnor gymryd rhan yn y streic

Roedd disgyblion o Ysgol Gynradd Radnor Road, Caerdydd yn y brotest, a oedd "yn brofiad ysbrydoledig", yn 么l un o'r athrawon.

"Ro'n i'n meddwl bod e'n rhan o 'nghyfrifoldeb i ddweud wrth y plant am y streic ac, os oedd eu rhieni yn cytuno, y bydden nhw'n cael cymryd rhan," meddai Eoghan Walsh.

"Mae'r plant wirioneddol wedi ymroi i'r peth... maen nhw'n profi nad ydych chi'n rhy ifanc i gymryd rhan ac i ddeall bod dyddiau tanwydd ffosil ar ben."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gall pobl ifanc siapio'r ddadl yma trwy gymryd rhan mewn trafodaethau gydag ysgolion, Llywodraeth Cymru ac eraill i roi cychwyn ar gamau a fydd yn cryfhau ein ymateb i newid hinsawdd.

"Rydym yn cefnogi nifer o weithgareddau sy'n creu cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd, gan gynnwys y rhaglen Ysgolion Eco sydd ar waith yn 95% o holl ysgolion Cymru - un o'r cyfraddau cyfranogi uchaf ar draws y byd.

"Yn y pen draw, rydym eisiau i'n holl bobl ifanc i fod yn aelodau moesol, gwybodus a gwerthfawr o gymdeithas a dyma'r union egwyddorion a fydd yn llywio ein cwricwlwm newydd.