Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adwaith - cenhadon answyddogol y Gymraeg?
- Awdur, Lois Gwenllian
- Swydd, 91热爆 Cymru Fyw
Ar brynhawn dydd Sadwrn glawog yng Nghaerdydd mae Adwaith yn paratoi ar gyfer gig yng Nghlwb Ifor Bach.
Wrth i mi ddringo'r grisiau cyfarwydd i drydydd llawr y clwb mae dirgryniad y drymiau a'r gitarau yn dod yn fwy amlwg fel eu c芒n, Gartref. Hon yw'r g芒n a ddenodd sylw James Dean Bradfield ac yn sgil hynny a ddenodd dorfeydd at y triawd o Sir Gaerfyrddin.
Bu'r chwe mis diwethaf yn un don fawr o gyffro i Hollie, Gwenllian a Heledd. Brig y don honno oedd rhyddhau eu halbwm gyntaf, Melyn. Rhyddhawyd y record i dderbyniad gwresog iawn gan ddenu sylwadau cadarnhaol, cyffrous am ddyfodol cerddoriaeth Gymraeg.
Un band craff a welodd y cyffro hwn yn mudferwi oedd The Joy Formidable o'r Wyddgrug. Mae'r gr诺p wedi profi llwyddiant eu hunain yn teithio a pherfformio ledled y byd ers sefydlu yn 2007. Estynodd y band wahoddiad i Adwaith ymuno efo nhw ar eu taith nesaf yn y DU.
Ar 么l cwblhau'r soundcheck, mae Gwenllian Anthony o Adwaith yn egluro i mi sut ddaeth y cynnig.
"Gathon ni ebost trwyddo o Gruff (Libertino Records) yn dweud bo' nhw 'di gofyn os o'n ni mo'yn neud e. Dim ond am cwpl o ddiwrnode o'dd hwnna i supporto nhw, ond daethon nhw'n 么l a dweud "ni mo'yn i chi wneud y whole tour.""
"Mae e'n dechre yn Norwich ac yn gorffen yn Llundain. Mae'n two weeks-worth of tour. Rhan fwyaf [o'r dinasoedd] sa i 'di bod 'na. Glasgow fi'n really excited am.
"Fi'n gobeithio gwnaiff pobl sy' heb wrando ar gerddoriaeth Gymraeg o'r blaen ddod. Cael blas bach ar beth yw cerddoriaeth Gymraeg. 'Chos pan aethon ni ar daith 'da Gwenno roedd rhan fwya' o' nhw wedi clywed caneuon Gwenno o'r blaen, ond mae hwn bach yn wahanol."
Gyda'r diddordeb mawr yma yng ngherddoriaeth Cymru ar hyn o bryd, ydy Adwaith yn teimlo pwysau i fod yn genhadon answyddogol dros ganu yn Gymraeg?
"So ni'n rhoi'r teitl 'na i ni'n hunain, sa i'n credu," eglura Hollie, prif leisydd Adwaith, gan achosi i'r ddwy arall chwerthin.
"Ni'n trial trwy music," ychwanega Gwenllian, ond mae Heledd, y drymar, yn awyddus i nodi, "mae lot o bands yn gwneud rhywbeth debyg."
Gyda 'Diwrnod Cenedlaethol Hwn' ac 'Wythnos Genedlaethol Llall' yn gorlenwi ffrydiau Twitter yn ddyddiol, yw Dydd Miwsig Cymru yn gwneud gwahaniaeth?
"Mae'n rili bwysig. Mae'n ddiwrnod i bawb ddod at ei gilydd a dathlu cerddoriaeth Gymraeg," meddai Gwenllian, gyda Hollie yn ychwanegu: "Mae'n dda i networking hefyd i bobl sy' mo'yn dechre band. Ewch i gigs ar Ddydd Miwsig Cymru - mae'n opportunity rili dda i gwrdd 芒 pobl yn y s卯n."
Efallai o ddiddordeb