Miliwn o wrandawyr i Alffa ar Spotify
- Cyhoeddwyd
Mae un o ganeuon y band Alffa wedi cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify.
Dyma'r tro cyntaf i g芒n cyfan gwbl Gymraeg gyrraedd miliwn yn 么l cwmni Pyst, sydd yn dosbarthu'r g芒n "Gwenwyn".
Mae'r g芒n yn arbennig o boblogaidd ymhlith gwrandawyr yng ngogledd America, Brasil, y Deyrnas Unedig a'r Almaen.
Dywedodd Alun Llwyd o'r cwmni dosbarthu Pyst: "Mae llwyddiant Alffa a C么sh yn ysgubol.
"Am y tro cyntaf maent wedi llwyddo i ryddhau c芒n lle mae cryfder y g芒n a'r recordiad wedi golygu ei bod wedi cael miliwn o wrandawyr yn fyd-eang - rhywbeth cynt nad oedd yn bosibl i ganeuon mewn ieithoedd lleiafrifol.
"Ond y peth mwyaf cyffrous yw mai adlewyrchiad yw hyn oll o gyfoeth, cryfder a phrysurdeb toreithiog labeli ac artistiaid Cymru. Megis cychwyn yw hyn."
Alffa oedd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2017 a "Gwenwyn" yw eu hail sengl.
Cafodd y g芒n ei chynhyrchu gan gwmni Yws Gwynedd - Recordiau C么sh.
Dywedodd mewn ymateb i'r newyddion: "Dwi'n teimlo'n lwcus iawn cael rhedeg y label mewn amser mor gyffrous lle mae ffiniau ieithyddol yn cael ei chwalu'n racs mewn storm berffaith.
"Mae llwyddiant 'Gwenwyn' yn arwyddocaol mewn toman o ffyrdd, yr un mwyaf sylfaenol i'r band a'r label yw bod yr incwm ddaw o hyn yn mynd i ariannu albym cyfan i'r band, ac ar ddiwedd y dydd, dyna da ni yma i wneud - creu cerddoriaeth o safon gan fandiau mwyaf cyffrous Cymru."
'Teimlad rhyfedd'
Dywedodd Dion Wyn Jones, gitarydd a prif leisydd y band, fod yr holl sylw wedi bod "rhyfedd iawn" a'u bod nhw erioed wedi dychmygu y byddai pobl ar draws y byd yn gwrando ar eu cerddoriaeth.
"Mae hyn wedi bod yn hwb enfawr i ni fel band, a 'da ni'n hynod falch.
"Roedd yr holl beth yn annisgwyl iawn. Dwi'n teimlo fel dylai neb fod yn disgwyl y fath sylw, yn enwedig band mor ifanc sy'n canu yn Gymraeg."
Ychwanegodd Mr Jones eu bod nhw'n ganol y broses o recordio eu halbwm cyntaf gyda'r bwriad o'i ryddhau cyn Eisteddfod 2019.