Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim Mesur Iaith newydd i Gymru wedi tro pedol llywodraeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio bwrw 'mlaen gyda Deddf Iaith newydd - mesur fyddai wedi cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r penderfyniad, gan ddweud y byddai'r ddeddf wedi lleihau mesurau sydd ar gael i warchod hawliau siaradwyr Cymraeg.
Ond mae yna feirniadaeth gan fudiad Dyfodol i'r Iaith sy'n dweud y byddai'r bil wedi creu corff cynllunio angenrheidiol.
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, i'r penderfyniad gael ei wneud ar ôl ystyried ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus ac ar ôl casglu tystiolaeth gan wahanol gyrff.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, y nod gwreiddiol oedd ceisio sicrhau llai o fiwrocratiaeth ynglŷn â'r Safonau Iaith.
Dyw'r penderfyniad ddim yn effeithio ar darged y llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl Ms Morgan mae'r llywodraeth nawr o'r farn fod yna ddigon o bwerau dan y drefn bresennol i sicrhau bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg.
"Er yr anfodlonrwydd gyda rhai agweddau o'r Safonau, mae'n glir nad oes awydd i newid y system yn ei chrynswth."
Ychwanegodd y byddai ailgychwyn y rhaglen o gyflwyno rheolau i ragor o gyrff cyhoeddus ynglŷn â defnyddio'r Gymraeg "cyn gynted ag y bydd yr amserlen deddfu ar gyfer Brexit yn eglur".
"Byddaf yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i weithredu newidiadau yn fuan," meddai.
"O ran cyrff preifat eraill, megis banciau ac archfarchnadoedd, bydd y Comisiynydd a minnau yn parhau i ymgynghori yn agos â nhw a'u gwthio i ddarparu mwy o wasanaethau, yn fwy cyson, yn y Gymraeg."
Ymateb cymysg
Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn croesawu'r penderfyniad.
"Mae ein gwaith ymchwil yn dangos fod Safonau'r Gymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i brofiad defnyddwyr, gyda'r gwaith rheoleiddio ydym ni yn ei wneud yn fodd o hyrwyddo defnydd o'r iaith.
"Mae'n gadarnhaol iawn y byddwn nawr yn gallu parhau gyda'r gwaith o osod safonau ar ragor o sectorau, gan symud ymlaen gyda chyfundrefn sy'n gweithio.
"Roedd angen eglurder o ran y ffordd ymlaen, a heddiw rydym ni wedi cael hynny.
"Bydd cyfle nawr i'r Comisiynydd newydd osod ei farc, ac adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud dros y saith mlynedd diwethaf."
Y cyn-Aelod Cynulliad, Aled Roberts, fydd yn olynu Ms Huws yn y swydd gan ddechrau ym mis Mawrth.
Dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fod y penderfyniad yn newyddion ardderchog.
"Mae angen i'r Llywodraeth fynd ati nawr i ganolbwyntio ar gyflawni eu gweledigaeth ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
"Mae'n hollbwysig hefyd bod y Llywodraeth yn bwrw ati ar unwaith i ddechrau cyflwyno'r Safonau i feysydd fel cwmnïau post, ynni, trydan, dŵr a thelathrebu."
'Trychineb ieithyddol'
Un sy'n anhapus yw'r AC a chyn-Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, oedd wrth y llyw pan gafodd y mesur ei lunio.
Dywedodd mewn trydariad fod y penderfyniad yn un oedd wedi ei siomi.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Dywedodd llefarydd ar ran Dyfodol i'r Iaith mai "trychineb ieithyddol" yw peidio bwrw ymlaen i sefydlu Corff Cynllunio Iaith.
"Mae'r llywodraeth wedi gwastraffu saith mlynedd trwy beidio hyrwyddo'r iaith yn iawn," meddai Heini Gruffudd, cadeirydd y mudiad.
"Ond maen nhw'n awr yn gwrthod mynd y cam nesaf angenrheidiol, sef cynllunio dyfodol y Gymraeg yn ôl egwyddorion cydnabyddedig.
"Mae angen cynlluniau ar frys i gryfhau'r Gymraeg mewn cartrefi, ac i adeiladu cymunedau Cymraeg, ar lawr gwlad ac ym myd technoleg, ond does neb yn cymryd cyfrifoldeb am y darlun cyflawn.
"Rydyn ni'n galw ar y llywodraeth i greu corff mewnol i arwain ar gynllunio iaith, os nad yw'n fodlon creu corff hyd braich.
"Mae'r angen am gael arbenigwyr ieithyddol, yn lle gwleidyddion, yn amlwg."
Galw am 'strategaeth newydd'
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg, Suzy Davies, mae penderfyniad y llywodraeth i gefnu ar y mesur "yn dangos nad yw unrhyw bolisi Cymraeg 2050 yn cael ei gefnogi gan unrhyw strategaeth gydlynol".
"Mae'r uchelgais bendigedig - a gefnogir gan Geidwadwyr Cymreig - i gyrraedd un filiwn o siaradwyr Cymraeg o fewn cenhedlaeth yn barod yn llithro i ffwrdd o realiti oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru - unwaith eto - wedi gwneud addewid heb unrhyw syniad ar sut i'w gyflawni," meddai.
"Mae hyn eisoes yn amlwg yn y ffaith bod nifer y myfyrwyr mewn hyfforddiant athrawon sy'n gallu addysgu yn Gymraeg ar ei bwynt isaf mewn degawd, ac nad yw un rhan o dair o'r rheini'n hyfforddi i addysgu yn Gymraeg.
"Nawr bod y mesur hwn wedi cael ei ollwng, mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu'n glir strategaeth newydd y maen nhw'n credu y byddant yn gwthio Cymru tuag at uchelgais trwm o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."