'Gallai Brexit olygu oedi i ddeddfwriaeth ar y Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Gallai Brexit olygu oedi i ddeddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg, yn 么l y gweinidog sy'n gyfrifol amdani.
Dywedodd Eluned Morgan wrth ACau ei bod yn "gweithio tuag at" gyhoeddi mesur erbyn 2020, ond bod "popeth lan yn yr awyr".
Mae ymgyrchwyr yn dweud y gallai hynny godi amheuon ynghylch a fydd y ddeddfwriaeth yn barod cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.
Llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau i ddiddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a sefydlu comisiwn yn lle hynny i hybu'r iaith.
'Angen ymrwymiad'
Ni chafodd mesur ar yr iaith Gymraeg ei gynnwys yng nghynlluniau'r llywodraeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Ym mhwyllgor diwylliant y Cynulliad ddydd Mercher, gofynnwyd i'r Farwnes Morgan a fyddai'r ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ym mlwyddyn olaf y tymor Cynulliad presennol.
"Dyna'r cynllun. Rydyn ni'n gweithio drwyddi ar hyn o bryd. Dyna'r bwriad," meddai.
"Ond dwi'n meddwl bod popeth lan yn yr awyr achos Brexit.
"Does gennym ni ddim syniad beth sy'n mynd i ddigwydd, beth fydd sgil effaith hynny, a sut fydd hynny'n effeithio ar y rhaglen ddeddfwriaethol.
"Ond y bwriad ar hyn o bryd yw ein bod ni'n gweithio'n galed ar y mesur."
Gofynnodd yr AC Ceidwadol, David Melding: "Onid oes angen i ni gael ymrwymiad cadarn?
"Nid popeth sy'n gallu cael ei rwystro gan Brexit. Siawns na fyddai hyd yn oed y sgil effeithiau mwyaf od yn ein stopio ni rhag cyflwyno deddfwriaeth arwyddocaol ar yr iaith Gymraeg."
Dywedodd Ms Morgan, un o dri sy'n cystadlu am arweinyddiaeth Llafur Cymru: "Ein bwriad yn bendant yw cyflwyno mesur newydd. Rydyn ni'n gweithio ar y peth."
Mae disgwyl i'r comisiynydd presennol, Meri Huws, adael ei swydd ym mis Ebrill.
'Cadwch y Comisiynydd'
Wrth ymateb i sylwadau'r gweinidog dywedodd Cymdeithas yr Iaith y bydden nhw'n croesawu gweld y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael ei ollwng.
"Mae'n galonogol bod y gweinidog yn codi amheuaeth a fydd y bil yn digwydd ai peidio," meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
"Mae model o gomisiynydd wedi ennill ei blwyf yn rhyngwladol fel ffordd o ddiogelu ieithoedd eraill, ac yng Nghymru mewn sectorau gwahanol gyda Chomisiynydd Plant sy'n llwyddo.
"Dydy diddymu'r model ddim yn gwneud synnwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2017
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd6 Awst 2018