Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Ffrainc v Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn dechrau gyda thaith i Baris, Ffrainc nos Wener.
Ar 么l gorffen Cyfres yr Hydref yn ddiguro am y tro cyntaf erioed, bydd carfan Warren Gatland yn llawn hyder wrth iddynt obeithio ennill eu degfed g锚m o'r bron.
Mae Cymru wedi enwi 15 profiadol ar gyfer y daith i'r Stade de France, a bydd diddordeb mawr i weld a fydd partneriaeth Tomos Williams a Gareth Anscombe - sy'n cychwyn fel mewnwr a maswr - yn effeithiol ar y lefel rhyngwladol.
Y sioc fwyaf yn nh卯m Ffrainc yw'r ffaith nad yw'r is-gapten Mathieu Bastareaud wedi ei gynnwys, gyda Romain Ntamack, 19 oed, yn cael ei enwi yn safle'r canolwr.
Eleni yw'r tro olaf y bydd Gatland wrth y llyw ar gyfer y Chwe Gwlad, a bydd yn gadael ei r么l ar 么l Cwpan y Byd yn yr hydref.
Mae Cymru wedi trechu Ffrainc chwe gwaith allan o'r saith g锚m ddiwethaf, gan gynnwys dwy fuddugoliaeth o dair ym Mharis.
Roedd hi'n g锚m ofnadwy o glos y tro diwethaf i'r ddwy wlad herio'i gilydd, a hynny yn Stadiwm Principality ym mis Mawrth y llynedd.
Llwyddodd Cymru gipio buddugoliaeth o 14-13 yn dilyn perfformiad amddiffynnol cofiadwy.
Colli oedd hanes Cymru y tro diwethaf iddyn nhw deithio i Baris, a hynny wedi bron i 100 munud o chwarae, wedi cais hwyr gan Damien Chouly.
Mae disgwyl i Ken Owens dorri record nos Wener, gan mai ef fydd wedi chwarae'r nifer fwyaf o gemau i Gymru yn safle'r bachwr - 61.
Bydd Owens ar frig y rhestr sy'n cynnwys Matthew Rees (60), Garin Jenkins (58) a Huw Bennett (51).
Dywedodd Gatland: "Mae e'n haeddu derbyn y clod yma. Mae o'n berson ardderchog ar y cae ac oddi wrth y maes chwarae, yn ogystal 芒 bod yn arweinydd gwych."
'Momentwm yn hollbwysig'
Y clo profiadol Alun Wyn Jones capten Cymru, gydag Adam Beard - sydd eto i golli yng nghrys Cymru - yn ymuno ag o yn yr ail reng.
Nid yw'r cefnwr Leigh Halfpenny (cyfergyd), y maswr Rhys Patchell (llinyn y gar) na'r canolwr Scott Williams (pigwrn) ar gael oherwydd anafiadau.
Ond mae digon o brofiad ar fainc Cymru, gyda Gareth Davies a Dan Biggar ymysg yr eilyddion.
Dywedodd Wyn Jones: "Mae momentwm yn hollbwysig, ond dydyn ni ddim yn canolbwyntio ar dorri recordiau... ein ffocws ni yw'r perfformiad."
T卯m Cymru
Liam Williams (Saracens); George North (Gweilch), Jonathan Davies (Scarlets), Hadleigh Parkes (Scarlets), Josh Adams (Caerwrangon); Gareth Anscombe (Gleision), Tomos Williams (Gleision); Rob Evans (Scarlets), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Caerwysg), Adam Beard (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch, capten), Josh Navidi (Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Ross Moriarty (Dreigiau).
Eilyddion: Elliot Dee (Dreigiau), Wyn Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Cory Hill (Dreigiau), Aaron Wainwright (Dreigiau), Gareth Davies (Scarlets), Dan Biggar (Northampton), Owen Watkin (Gweilch).
T卯m Ffrainc
Maxime Medard; Damian Penaud, Wesley Fofana, Romain Ntamack, Yoann Huget; Camille Lopez, Morgan Parra; Jefferson Poirot, Guilhem Guirado (capten), Uini Atonio, Sebastien Vahaamahina, Paul Willemse, Wenceslas Lauret, Arthur Iturria, Louis Picamoles.
Eilyddion: Julien Marchand, Dany Priso, Demba Bamba, Felix Lambey, Gregory Alldritt, Baptiste Serin, Gael Fickou, Geoffrey Doumayrou.
Hefyd o ddiddordeb:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019