Eira'n achosi rhagor o drafferthion ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae eira wedi achosi trafferthion ar draws Cymru am yr ail ddiwrnod yn olynol.
Mae ymhell dros 100 o ysgolion ar gau, gan gynnwys dros 70 yn Sir Y Fflint, ac mae amodau yn anodd i yrwyr.
Mae gweddill y gogledd, rhannau o Bowys a Sir Gaerfyrddin hefyd ymhlith y llefydd sydd wedi eu taro waethaf.
Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am rew i ben am 11:00 ddydd Mercher, ond mae'r arbenigwyr yn darogan amodau tebyg yn y deuddydd nesaf.
Edrych yn 么l ar drafferthion ben bore Mercher
Roedd disgwyl cawodydd yn ystod y bore, gyda'r posibilrwydd iddi luwchio mewn mannau.
Y cyngor yn gyffredinol yw i bobl ganat谩u mwy o amser na'r arfer i deithio ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.
Mae nifer o ffyrdd naill ai ar gau yn rhannol, neu'n destun rhybudd am amodau gyrru anodd neu beryglus.
A55 - rhwng Abergele a Phensarn;
A546 - Rhodfa Maesdu, Gogarth, Conwy
A4244 - Glasinfryn i Frynrefail
A487 - Penygroes a Llanwnda
A5 - Rhostrehwfa, Ynys M么n
A494 - Yr Wyddgrug
A547 - Rhwng Rhuddlan a Dyserth
A525 - Ffordd Rhuthun, Dinbych
A470 - Rhwng Derwn Deg a Gellilydan yng Ngwynedd
A55 - Pentre Helygain yn Sir y Fflint
Cafodd T卯m Achub Mynydd Llanberis eu galw i helpu gr诺p o bobl oedd wedi eu dal gan gwymp eira bnawn Mawrth.
Roedd un o ohonyn nhw wedi torri coes yn y cwymp, a bu'n rhaid ei gludo o'r mynydd mewn hofrennydd.
Rhybudd tywydd pellach
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn arall:
am rew rhwng 18:00 nos Fercher a 10:00 fore Iau yn y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio tua'r de ddwyrain; ac
am rew ac eira rhwng 13:00 ddydd Iau a 21:00 nos Wener.
Ddydd Mawrth, bu'n rhaid cau Bwlch Sychnant yng Nghonwy, Bwlch yr Oerddrws ger Dolgellau a'r A487 rhwng Machynlleth a thafarn y Cross Foxes.
Bu'n rhaid defnyddio aradr eira ar yr A44 yn ardal Aberystwyth ar 么l i geir fynd yn sownd.
Aeth ceir a lorri yn sownd yn yr eira ar yr A487 hefyd yn ardal Dinas Mawddwy, ac roedd cyngor i osgoi Bwlch y Crimea ym Mlaenau Ffestiniog.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2019