91热爆

'Mwy o gangiau cyffuriau yn defnyddio pobl ifanc'

  • Cyhoeddwyd
Llun o berson ifancFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y bobl yn eu harddegau sy'n cael eu defnyddio gan y diwydiant cyffuriau yn ne Cymru yn cynyddu, ac yn 么l un heddwas fe fyddai'n "na茂f" i gredu nad oes rhai o'r ardal yn gwneud.

Mae gangiau cyffuriau yn aml yn defnyddio pobl ifanc o du allan i'r ardal er mwyn gwerthu cyffuriau - trefn sy'n cael ei adnabod fel County Lines.

Yr wythnos ddiwethaf fe gafodd dyn ei garcharu am ddod 芒 phlentyn amddifad o Lundain i werthu heroin a choc锚n yn Abertawe.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Johnson o Heddlu De Cymru fod mwy o blant yn cael eu defnyddio yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

'Cwpl o weithiau bob mis'

"Fel arfer mae'r plant yn dod o Lundain, Lerpwl, Birmingham, a ni'n ffeindio nhw cwpl o weithiau bob mis," meddai.

"Ni wedi ffeindio plant yn Abertawe... mae'r oedran rhwng 13 ac 17. Gyda'r bobl ifanc sy' o'r ardal, i fod yn onest 'ni ddim yn gwybod scale y broblem.

"Beth sy' angen nawr yw bod y gymuned yn dweud wrthon ni beth yw'r broblem. Mae'n rhaid i ni fynd i ysgolion i siarad 芒 nhw i weld beth arall ni'n gallu gwneud i helpu'r bobl ifanc."

Disgrifiad,

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Johnson bod delwyr yn defnyddio plant "yn fwyfwy aml"

Beth yw County Lines?

Mae County Lines yn drefn sy'n gweld gangiau dinesig o Lundain, Lerpwl a Birmingham yn dod 芒 ffonau symudol nad oes modd eu holrhain i ardaloedd gwahanol er mwyn gwerthu coc锚n a heroin yn uniongyrchol ar y stryd.

Mae pobl ifanc lleol wedyn yn gwerthu'r cyffuriau mewn ardaloedd trefol ar draws y DU.

Mae'r gangiau yn aml yn ecsploetio pobl ifanc bregus i ddarparu lleoliadau i storio'r cyffuriau yn yr ardaloedd newydd.

Ychwanegodd Mr Johnson fod pobl ifanc yn "adnodd tafladwy" i werthwyr cyffuriau, oherwydd os fyddan nhw'n cael eu dal maen nhw'n debyg o gael dedfrydau llai llym oherwydd eu hoed.

Mae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ymhlith y 10 sir uchaf yng Nghymru a Lloegr am farwolaethau oherwydd heroin.

Yn 么l Jamie Harris, rheolwr elusen gyffuriau Barod, mae Abertawe wedi gweld yr ochr waethaf i system County Lines.

"Mae Abertawe yn unigryw oherwydd dy'n ni erioed wedi cael gangiau sy'n frodorol i ardal Abertawe," meddai.

"Yr ecsploetio ry'n ni wedi ei weld yn Abertawe yw pobl ifanc yn cael eu defnyddio i gludo cyffuriau sydd ddim o ardal Abertawe, ond hefyd pobl ifanc lleol yn cael eu defnyddio i ddosbarthu cyffuriau - weithiau hyd at y pwynt eu bod yn cael eu hecsploetio'n rhywiol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jamie Harris yn gweld y broblem o ddydd i ddydd gydag elusen Barod

Dywedodd Dr Mohammed Qasim, sy'n ymchwilio gyda gangiau o leiafrifoedd ethnig, ei fod wedi edrych ar sefyllfa Abertawe ac mae'n credu nad yw'r ddinas yn ddioddef ar ei phen ei hun.

"Mae'n broblem sy'n ymddangos fel ei bod wedi gwaethygu yn ddiweddar. Mae gangiau yn dod ac yn ymgartrefu yn Abertawe," meddai.

"Mae'r gangiau o Lundain yn tueddu i ddefnyddio plant o'u hardaloedd nhw, ac mae hynny'n seiliedig ar ymddiriedaeth.

"Mae gwerthwyr cyffuriau lleol yn ceisio cael plant lleol ar gyffuriau, a thrwy hynny eu hecsploetio nhw. Mae hynny'n rhywbeth sydd yma i aros."