Ysbyty mwyaf Cymru'n 'anaddas i'w bwrpas erbyn hyn'
- Cyhoeddwyd
Dydy ysbyty mwyaf Cymru "ddim yn addas i'w bwrpas mwyach" yn 么l rheolwyr bwrdd iechyd sy'n ystyried codi un newydd yn ei le yng Nghaerdydd a'i agor erbyn 2030.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn penodi "uwch-swyddog" i ddatblygu cynllun codi adeilad newydd yn lle Ysbyty Athrofaol Cymru fel rhan o gynllun ehangach i adfywio gwasanaethau iechyd.
Mae'n fwriad i ddatblygu achos busnes erbyn 2026, ond mae'r bwrdd yn pwysleisio mai dyma'r camau cychwynnol a bod dim penderfyniadau eto a fyddai'r ysbyty newydd ar y safle presennol.
Does dim awgrym faint allai'r cynllun gostio.
'Dangos ei oed'
Cafodd yr adeilad presennol, sydd 芒 mwy na 1,000 o welyau, ei godi yn 1971, ac "mae'n dangos ei oed", yn 么l prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a Bro Morgannwg, Stephen Allen.
Dywedodd y byddai'r cyngor yn "croesawu trafodaeth" ar ddarparu ysbyty newydd, ond mae ganddyn nhw "bryderon ynghylch ei godi ar yr un rhan o dir".
Mae gyrwyr, meddai, yn teithio ar draws tir yr ysbyty er mwyn cyrraedd ffordd gyswllt, ac mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod bod yna dagfeydd yno.
"Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud bod llwyth o waith cynnal a chadw i'w wneud," meddai.
"Mae'n gyffrous eu bod yn edrych ar [ailddatblygu'r ysbyty]. Maen nhw'n edrych ar ddarparu adnodd cyfoes ar gyfer gofal iechyd cyfoes y bydden ni'n ei groesawu."
Mae cynllun drafft y bwrdd yn amlinellu pa wasanaethau allai'r ysbyty newydd eu darparu mewn 10 mlynedd, gan gynnwys gwasanaethau trawma mawr ac adran frys ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg.
Byddai'n darparu pob lefel o聽ofal critigol a gwlau gofal brys ar gyfer cleifion 芒 chyflyrau amrywiol yn cynnwys canser, clefyd y galon, trafferthion anadlu a chyflyrau sy'n gysylltiedig 芒 heneiddio.
Byddai theatr frys ar agor ddydd a nos, gan ddarparu llawdriniaethau cymhleth i gleifion 芒 phroblemau fasgiwlar a chyflyrau llinyn y cefn, yn ogystal 芒 llawdriniaethau robotig a llawdriniaethau i gleifion canser.
Mae'n fwriad hefyd i'r ysbyty newydd fod yn gartref i Ysbyty Arch Noa Plant Cymru, uned gofal dwys i fabanod newydd-anedig ac uned mamolaeth gyda gwasanaethau ategol ddydd a nos.
Fe allai'r cynlluniau arwain at symud rhai gwasanaethau critigol i'r safle newydd o Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Bydda'r ysbyty honno wedyn yn trin cleifion sy'n "s芒l ond sefydlog" ac yn darparu gwlau ar gyfer cleifion iechyd meddwl.
Hefyd fe fyddai'n darparu gwasanaethau adfer arbenigol, llawdriniaethiau risg isel a chyffredinol, a gwasanaethau sgrinio
Mae'r cynlluniau hefyd yn s么n am sefydlu canolfannau iechyd a lles gyda gwasanaethau ar gyfer cleifion allanol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Ysbyty'r Barri ac Ysbyty'r Eglwys Newydd.
Byddai rhwydwaith o ganolfannau llai ym Maelfa, Trel谩i a Phenarth yn darparu gwasanaethau meddygon teulu, deintyddion, bydwragedd cymunedol ac ymwelwyr iechyd erbyn diwedd 2021.
Mae'r bwrdd yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael eu trin yn y cartref neu'r gymuned yn y dyfodol, yn sgil disgwyl y bydd mwy o alw am wasanaethau iechyd wrth i bobl fyw yn h欧n.
Dywed cyfarwyddwr cynllunio strategol y bwrdd, Abigail Harris: "Rydym yn penodi uwch-swyddog i sefydlu rhaglen waith i ailddatblygu / ailadeiladu Ysbyty Athrofaol Cymru oherwydd mae yna gydnabyddiaeth yn gyffredinol nad yw'r prif adeilad yn addas i'w bwrpas mwyach."