Llinos yn ceisio caiacio i Tokyo!
- Cyhoeddwyd
Mae Llinos Owen, sy'n wreiddiol o Bwllheli, yn gerddor proffesiynol ac yn chwarae'r bas诺n i gerddorfa'r Birmingham Royal Ballet.
Newidiodd ei bywyd un dydd yn 2009 pan gafodd hi ddamwain car ddifrifol.
Soniodd am ei phrofiadau gyda Sh芒n Cothi ar Bore Cothi ar 91热爆 Radio Cymru, a sut newidiodd trywydd ei bywyd yn gyfan gwbl drwy help caiac inflatable.
Dywedodd Llinos: "Shattered pelvis oedd y prif anaf. 'Nes i dorri chwech asen, collarbone a punctured lung ond o'dd rheiny yn llai difrifol ac yn trwsio eu hunain.
"Ond efo'r shattered pelvis, nes i orfod aros yn yr ysbyty am rhyw chwech wythnos, wedyn yn gorfod gorwedd ar fy nghefn am 10 wythnos achos mod i ddim yn cael plygu yn y pelfis tra o'dd hwnnw'n setlo ar 么l y llawdriniaeth.
"Fues i mewn cadair olwyn am ychydig fisoedd a dysgu'n ara' bach sut i gerdded eto. Adeg hir ac araf, a dwi'n meddwl mod i'n disgwyl, ar ddiwadd y ddwy flynedd o wella oddan nhw 'di ddeud, y byswn i'n well well. Do'n i ddim wedi ystyried y baswn i ddim fel o'n i o'r blaen."
'Mynd yn hen cyn eu hamser'
A hithau wedi arfer cadw'n ffit a bywiog, cafodd Llinos drafferth dod i delerau 芒'r ffaith na fyddai'n medru rhedeg neu hyd yn oed mynd am dro neu sefyll yn hir eto.
Roedd hi hefyd yn hiraethu am yr awyr agored a byd natur, ac yn teimlo ei bod hi a'i g诺r yn 'mynd yn hen cyn eu hamser' gan nad oedden nhw'n gallu gwneud y gweithgareddau yr oedden nhw'n arfer eu gwneud. Roedd yn rhaid felly dod o hyd i weithgaredd newydd.
"'Nath y g诺r brynu caiac plaen, inflatible, ac o'n i wrth fy modd ynddo fo, ac mae o 'di mynd yn dipyn o obsesiwn i'r ddau ohonon ni. Mae ganddon ni saith caiac r诺an!"
Bellach roedd Llinos yn medru cyrraedd lleoedd a oedd, ers y ddamwain, yn amhosib iddi fynd iddyn nhw.
"O'n i wrth fy modd pan o'n i'n ieuangach yn mynd efo 'nheulu i draeth Porthysgo. Mae o tua ugain munud o'r maes parcio a dydi hynny ddim yn rhywbeth fedra i 'neud mwyach.
"Ond 'chydig o flynyddoedd yn 么l, 'nath fi a'r g诺r caiacio o Aberdaron i Borthysgo a dda'th Mam 芒 picnic, felly 'nathon ni dal allu cael picnic fel teulu!"
Newid cyfeiriad
Mae caiacio yn rhywbeth mae Llinos a'i g诺r, David, yn medru ei fwynhau gyda'i gilydd. Ond mae bellach hefyd wedi dod yn rhan fawr o fywyd Llinos - rhywbeth a ddechreuodd ar 么l iddi weld neges ar Twitter a oedd yn gwahodd ceisiadau gan bobl anabl, sydd yn mwynhau gwneud chwaraeon.
"Nes i yrru ffurflen gais, yn meddwl 'san nhw'n gwrthod gan mod i'n 36 oed ac yn gerddor! Ond yn digwydd bod, oddan nhw'n chwilio am ferched efo anabledd tebyg i'n un i i'r sgwad caiacio Paralympaidd.
"Fis Mehefin y llynedd, es i gael profion ffitrwydd, o'dd yn eitha' sg锚ri - roedd 'na fwced drws nesa' i bob peiriant rhag ofn i chi fod yn s芒l! Oddan nhw'n gwthio ni'n rili caled.
"Wedyn ges i wahoddiad i wneud profion mwy penodol yngl欧n 芒 caiacio, wedyn tri training camp i weld os oedden ni'n gwella a dysgu. A ges i ran yn y rhaglen."
Teg edrych tua Tokyo
Mae Llinos bellach yn rhan o sgwad Paralympaidd Prydain ac yn hyfforddi yn Nottingham o leiaf ddwywaith yr wythnos.
"Mae'r gemau Paralympaidd nesa' yn Tokyo 2020. Mae tua chwech ohonon ni sy'n ferched yn yr un categori 芒 fi, a dim ond un fydd yn cael mynd, felly dwi ddim yn meddwl y bydd hi'n debygol y bydda i'n mynd i Tokyo.
"Ond mae'n ddifyr i mi ei wneud - fel blwyddyn allan o fywyd normal. Dwi'n cymryd 'chydig llai o oriau o chwarae cerddoriaeth er mwyn gwneud gymaint o hyfforddi ag y galla i.
"Mae pawb sydd ar y rhaglen wedi gorfod cwffio rhywbeth, mae'n ysbrydoledig, ac mae 'na reswm gan bawb dros fod yna."
Prin y byddai Llinos wedi meddwl mai dyma sut fyddai ei bywyd hi y dyddiau yma, ond mae hi'n gwerthfawrogi bob eiliad, ac yn teimlo ei bod yn ffodus iawn.
"Dwi wirioneddol yn teimlo mai lwc ydi hyn - mae'n lwc medru c么pio efo hyn. Ella jyst lwc bod rhai pobl yn medru deud 'dwi ddim am adal i hyn fy niffinio fel person, dwi isho gneud y gora' medra i o mywyd o hyn allan'."
A dyna'n union beth mae Llinos am ei wneud, er ei fod dal yn anodd iddi ei gredu weithiau.
"Dwi dal ddim yn coelio ei fod o'n dod allan o ngenau i... "Sori, fedra i ddim dwad i'r cyngerdd yna achos dwi'n hyfforddi efo t卯m Paralympaidd caiacio..."! Dyna dwi wedi ffeindio'n hun yn ei 'neud 'wan!"
Hefyd o ddiddordeb: