91热爆

Carchar newydd ym Mhort Talbot 'ddim yn bosib'

  • Cyhoeddwyd
Baglan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw adeiladu carchar ar leoliad ger parc diwydiannol ym Maglan yn "bosibl" bellach

Ni fydd carchar newydd yn cael ei adeiladu ym Mhort Talbot, yn 么l gweinidog dros garchardai Llywodraeth y DU.

Dywedodd Rory Stewart nad oedd y cynllun dadleuol i adeiladu carchar mawr ar rostir Baglan yn "bosib" wedi i Lywodraeth Cymru werthu'r tir.

Fe wnaeth y cynlluniau i adeiladu carchar categori C i hyd at 1,600 o garcharorion wynebu gwrthwynebiad chwyrn yn lleol.

Y bwriad bellach yw chwilio am leoliad arall, ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i adeiladu carchar yn ne Cymru.

Edrych am safle arall

Fe wnaeth Mr Stewart ei sylwadau yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cymreig ar 15 Ionawr.

"Ar 么l meddwl bod gennym gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i barhau ar y safle yna, mae hynny bellach wedi mynd, felly mae'n rhaid i ni edrych am safle arall yng Nghymru, na fydd ym Mhort Talbot," meddai.

Ychwanegodd: "Rydym yn chwilio am gymunedau sy'n gweld pwynt y fenter, sydd eisiau ymgysylltu gyda ni a fydd yn croesawu ein buddsoddiad."

Yn 么l Stephen Kinnock, AS Aberafan, mae'n "newyddion ffantastig ac yn fuddugoliaeth i bobl Port Talbot".

"Mae'r AM David Rees a finnau wedi bod yn gweithio'n galed gyda'n hetholwyr i bwysleisio'r rhesymau pam fod Baglan yn gwbl anaddas ar gyfer carchar mawr o'r fath, ac rwy'n falch - wedi ymgyrchu am bron i ddwy flynedd - bod Llywodraeth y DU wedi ildio," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w hysbysu nad ydym am gynorthwyo datblygu carchardai pellach heb drafod yn ystyrlon ac yn drylwyr am safleoedd yn y dyfodol fel rhan o agwedd gyfannol at bolis茂au cosbi yng Nghymru."

Ychwanegodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod yn croesawu "cadarnhad pellach nad yw codi'r carchar yn mynd yn ei flaen".