Gwaith adeiladu ar ffordd osgoi Bontnewydd wedi dechrau
- Cyhoeddwyd
Wedi 10 mlynedd o drafod mae'r gwaith adeiladu ar ffordd osgoi newydd chwe milltir drwy bentref Bontnewydd yng Ngwynedd wedi dechrau'n swyddogol.
Roedd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth Cymru, Ken Skates yn bresennol ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon ddydd Iau i dorri'r dywarchen gyntaf.
Yn wreiddiol, roedd y gwaith ar y ffordd osgoi chwe milltir (9.8km) i fod i ddechrau yn Hydref 2017 a chael ei gwblhau ddiwedd 2019.
Roedd yr oedi i'r gwaith yn cael ei feirniadu gan drigolion pentrefi Saron a Llanfaglan, yn enwedig pan oedd gyrwyr yn defnyddio'r ffordd drwy'r ardal er mwyn osgoi pentref Bontnewydd ar adegau prysur.
"Mae'r traffig sy'n mynd heibio yn y bore neu ar ddiwedd y dydd yn mynd ar sb卯d gwirioneddol hurt," meddai Lynn Roberts.
Bydd y ffordd newydd yn cael ei hadeiladu o gylchfan y Goat ar gyffordd yr A499/A487 hyd at gylchfan Plas Menai, o amgylch Llanwnda, Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon.
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Hydref 2021.
Dywedodd Ken Skates: "Mae'n bleser cael nodi bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar y cynllun seilwaith pwysig hwn yn y gogledd-orllewin.
"Gall y cynllun hwn gael effaith wirioneddol gadarnhaol ar yr ardal, yn ystod y cyfnod adeiladu ei hun drwy gynnig gwaith yn lleol a chyfleoedd hyfforddiant.
"Bydd yn hollbwysig hefyd o ran darparu cysylltiadau gwell i gyrchfannau twristiaeth," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017