91热爆

Picedu yn erbyn Trafnidiaeth Cymru am ddiffyg Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi ymddiheuro am nifer y trenau sydd wedi cael eu canslo yn ddiweddar

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod yn "gwneud eu gorau glas" i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg.

Ddydd Sadwrn, bu ymgyrchwyr iaith yn cynnal cyfres o bicedi ledled y wlad yn erbyn y gwasanaeth tr锚n newydd, gan fod "cyn lleied o wasanaethau ar gael yn Gymraeg".

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod wedi derbyn degau o gwynion yn erbyn y corff, gan gynnwys rhai am wefan docynnau uniaith Saesneg, cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg ar y trenau, ap tocynnau newydd uniaith Saesneg a pheiriannau hunan-wasanaeth sydd ddim yn gweithio'n llawn yn Gymraeg.

Yn 么l Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, fe ddylai cwmni Keolis Amey, sy'n rhedeg y fasnachfraint newydd, fod wedi bod yn cydymffurfio 芒'r safonau o'r diwrnod cyntaf iddyn nhw redeg y gwasanaeth 'n么l ym mis Hydref y llynedd.

Cafodd picedi eu cynnal yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog, Abertawe, Caerfyrddin, Aberystwyth, Machynlleth a Bangor.

Dywedodd David Williams, is-gadeirydd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith: "Mae diffygion y cwmni tr锚n newydd mor wael o ran y ddarpariaeth Gymraeg, mae bron yn ddi-gynsail fel gwasanaeth cyhoeddus.

"Rydyn ni'n ymwybodol o gwynion am nifer fawr o wasanaethau o bob math nad ydyn nhw ar gael yn Gymraeg, neu sy'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

"Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, rydyn ni wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ddefnyddio'r pwerau eang sydd ganddi hi i gynnal ymchwiliad cyffredinol.

"Mae'n siom aruthrol bod Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r cwmni dan gytundeb iddynt wedi methu 芒 sicrhau bod y gwasanaethau yma yn cael eu darparu yn Gymraeg er gwaetha'r holl amser paratoi oedd ganddyn nhw cyn i'r cytundeb newydd ddechrau."

'Byddwch yn amyneddgar'

Mewn ymateb, dywedodd Colin Lea, cyfarwyddwr masnachol a phrofiad cwsmer Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw wedi "ymrwymo'n llwyr i'r iaith Gymraeg ac i ddarparu gwasanaethau dwyieithog".

"Rydyn ni wedi ariannu a chytuno ar gynllun ar gyfer y 12 mis nesaf er mwyn gwella'r ddarpariaeth Gymraeg er budd ein cwsmeriaid," meddai.

"Rydyn ni'n cytuno'n llwyr y dylai ein cwsmeriaid allu archebu eu tocynnau yn Gymraeg, felly rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i ganfod ateb lle nad yw'r dechnoleg a'r systemau yn cyfateb ar hyn o bryd.

"Ar hyn o bryd, mae ein gwefan a'n ap, gan gynnwys y cyfleuster archebu tocynnau ar-lein sy'n cael ei ddarparu gan Trainline, yn defnyddio data hollbwysig sy'n cael ei ddarparu gan amrywiaeth o systemau yn y diwydiant rheilffyrdd ledled Prydain Fawr.

"Ar y cam hwn, mae'r data'n cael ei ddehongli yn Saesneg yn unig. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys elfennau allweddol fel y National Reservation System, sydd ar gael yn Saesneg yn unig.

"Rydyn ni'n edrych ar atebion fel defnyddio systemau cyfieithu awtomatig 么l-brosesu. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar wrth i ni wneud ein gorau glas i roi swyddogaethau Cymraeg cywir ar waith cyn gynted 芒 phosib."