'Un o goed hynaf' y DU wedi'i thorri i lawr i adeiladu tai
- Cyhoeddwyd
Gallai coeden yn Abertawe a gafodd ei thorri i lawr gan ddatblygwr tai fod yn un o'r rhai cyntaf erioed i gael eu plannu yn y DU.
Mae dogfennau yn awgrymu fod coed wedi cael eu plannu ar yst芒d Penlle'r-gaer yn 1842 - 10 mlynedd cyn i hadau gael eu cludo i Brydain yn 1853.
Eisoes mae Enzo 91热爆s, sy'n adeiladu 80 o dai newydd ger coedwig ar safle'r hen yst芒d, wedi dweud fod y gochwydden fawr wedi'i thorri i lawr drwy gamgymeriad, gan nad oedd wedi'i marcio'n gywir.
Mae'r ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd yn parhau.
'Enghreifftiau cynharaf'
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedaeth Penlle'r-gaer, Lee Turner bod perchennog yr yst芒d, John Dillwyn Llewelyn yn fotanegydd brwd yn y 19eg ganrif, a oedd yn mewnforio planhigion ar draws y byd.
"Mae gennym ni nodiadau sy'n dyddio'n 么l dros ganrifoedd ers i deulu John Dillwyn Llewelyn blannu coed ar y st芒d.
"Mae'r record gyntaf yn dyddio'n 么l i 1842. Fe allwn weld rai o ddyddiaduron y teulu o'r cyfnod hwnnw."
Dywedodd Jeremy Barrell o gwmni sy'n ymgynghori ar goed fod mesuriadau'r goeden yn awgrymu "ei bod hi'n bosib ei bod hi'n un o'r enghreifftiau cynharaf" a byddai "dyddio'r goeden yn hawdd".
'Anferth'
Dywed Cyngor Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio ac i asesu pa gamau i'w cymryd dros y goeden, sydd wedi'i diogelu gan orchymyn cadwraeth.
Mae Neil Jones o Gyfeillion y Ddaear Abertawe wedi dechrau deiseb yn galw am gamau pellach yn erbyn y datblygwyr.
"Roedd hi'n goeden anferth oedd y sefyll ymhell dros unrhyw beth arall yn yr ardal," meddai.
"Dydych chi ddim yn cael coed fel hyn unrhyw le - does dim byd tebyg ym Mhrydain sydd yn ddigon hen i fod mor fawr 芒 hyn."