Diwrnod olaf Jones: 'Anrhydedd bod yn Brif Weinidog'
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi cael cymeradwyaeth gan ACau wrth roi ei araith olaf fel Prif Weinidog Cymru.
Ar 么l ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog am y tro olaf a gwneud datganiad yn y Senedd, bydd Mr Jones yn anfon ei ymddiswyddiad i'r Frenhines.
Ddydd Mercher fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal yn y Cynulliad i gadarnhau Mark Drakeford fel ei olynydd.
Fe wnaeth Mr Drakeford ennill gornest arweinyddol y blaid Lafur yng Nghymru yr wythnos diwethaf.
Teyrngedau
Wrth wynebu ACau am y tro olaf, dywedodd Mr Jones ei fod "wedi bod yn anrhydedd mawr i wneud y swydd".
Ond ychwanegodd bod "naw mlynedd yn ddigon" fel prif weinidog a'i fod yn "bwysig cadw cydbwysedd rhwng y swydd a'ch bywyd".
"Fe fydda i'n parhau i fod mor groch ag y galla i o'r meinciau cefn, ond nid yn drafferthus, yn cefnogi gwerthoedd yr ydw i'n credu sy'n cynrychioli tegwch, cyfiawnder a chyfleoedd," meddai.
Roedd yn sesiwn ychydig yn wahanol i'r arfer, gyda nifer o aelodau yn cymryd y cyfle i roi teyrnged iddo gan gynnwys arweinydd gr诺p y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Mewn ymateb dywedodd Mr Jones gyda gw锚n: "Dyna'r tro cyntaf yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog nad yw e wedi defnyddio'r gair 'shambls'."
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, gymryd y cyfle i holi Mr Jones am bolis茂au buddsoddi, tlodi plant, a rheilffordd Caerfyrddin-Aberystwyth.
Dywedodd y Prif Weinidog fod camau fel sefydlu Banc Datblygu Cymru wedi gwneud gwahaniaeth.
Mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd gr诺p UKIP, Gareth Bennett, yn gofyn iddo roi marc allan o ddeg i'w gyfnod wrth y llyw, dywedodd Mr Jones: "Deg."
Er hynny, dywedodd nad oedd Llywodraeth Cymru "yna eto o ran llywodraeth leol", er bod partneriaethau rhanbarthol wedi bod yn llwyddiant.
'Braint eich gwasanaethu'
Yn ei araith i ACau wedi hynny, dywedodd Mr Jones ei fod wedi bod yn "fraint olynu fy nghyfaill a'm mentor Rhodri Morgan" ac i "wasanaethu Cymru... mewn cyfnod heriol tu hwnt".
Dywedodd ei fod yn deimlad "chwerw felys" i roi'r gorau i'r swydd, ond ei fod yn falch o'r "gwaith sydd wedi ei gwblhau".
Wrth adlewyrchu ar newidiadau yn y byd gwleidyddol yng Nghymru yn y naw mlynedd diwethaf, dywedodd: "Mae datganoli bellach wedi sefydlu'i hun, nid yn unig yn y gyfraith, nid yn unig fel ffaith, ond yng nghalonnau pobl Cymru. Does dim amheuon bellach."
Fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod fod ei gyfnod wrth y llyw wedi bod yn un "heriol" a hynny, meddai, oherwydd toriadau i'r gyllideb yn ogystal 芒 "mater bychan Brexit".
Ond mynnodd fod ei lywodraeth wedi llwyddo mewn meysydd fel addysg, gyda nifer o ysgolion newydd wedi eu hadeiladu, a'r economi gyda miloedd o swyddi wedi'u creu.
Ychwanegodd fod buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd hefyd wedi gwella cyfraddau goroesi pobl, gan grybwyll hefyd y ddeddf rhoi organau.
"Dyw'r un o'r polis茂au yma'n bodoli ar wah芒n i'w gilydd," meddai.
"I mi maen nhw i gyd yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth y byddai wastad eisiau ar gyfer Cymru. Tegwch a gobaith."
Gorffennodd wrth ddiolch i "bawb sydd yma, ond yn bwysicach i bobl Cymru yr wyf wedi cael y fraint o'u gwasanaethu".
'Blwyddyn anodd'
Mae Carwyn Jones wedi bod yn Aelod Cynulliad ers yr etholiad cyntaf yn 1999, pan ddaeth yn AC dros Ben-y-bont yn 32 oed.
Bu'n aelod cabinet am gyfnod hir dan ei ragflaenydd Rhodri Morgan, gan gynnwys fel gweinidog amaeth a chwnsler cyffredinol.
Enillodd yr ornest arweinyddol yn dilyn ymddeoliad Mr Morgan yn 2009, cyn ennill mwyafrif yn etholiad Cynulliad 2011.
Arhosodd y blaid Lafur mewn grym yn dilyn etholiad 2016 hefyd, mewn llywodraeth leiafrifol y tro hwn.
Ond fe wnaeth marwolaeth y cyn-weinidog Carl Sargeant - gafodd ei ganfod yn farw bedwar diwrnod ar 么l cael ei ddiswyddo o'r cabinet - daflu cysgod dros flwyddyn olaf Mr Jones wrth y llyw.
Wrth adlewyrchu ar ei gyfnod fel Prif Weinidog ddydd Llun, dywedodd Mr Jones wrth 91热爆 Cymru ei fod yn teimlo fod newid y gyfraith ar roi organau yn un o'r deddfau pwysicaf ei gael eu pasio.
"Yn llythrennol, mae pobl yn fyw oherwydd y ddeddfwriaeth honno," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018