91热爆

Pryderon fod sawl aderyn ar fin diflannu o'r tir

  • Cyhoeddwyd
CurlewFfynhonnell y llun, Andy Hay/RSPB
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y gylfinir wedi gostwng 39% ers y 1970au

Mae niferoedd un ym mhob tri math o aderyn yng Nghymru yn dirywio'n sylweddol, yn 么l ymchwil newydd.

Datgelodd adroddiad 'Cyflwr Adar yng Nghymru' bod rhywogaethau sy'n byw ar ffermdir ac mewn coetiroedd yn arbennig o fregus.

Newid hinsawdd a cholli cynefinoedd sy'n bennaf gyfrifol, medd yr ymchwilwyr, ac mae yna alw am ymdrech frys i warchod rhai o adar amlyca'r wlad.

Yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae'r data'n cynnig darlun gwerthfawr i wyddonwyr, amgylcheddwyr a gwleidyddion.

Disgrifiad,

Adar drycin Manaw yn dychwelyd i Ynys Sgomer yn y nos

Fe wnaethon nhw gydweithio ar yr adroddiad gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO), Cymdeithas Adaryddol Cymru (WOS) ac RSPB Cymru.

Cafodd cyfres o arolygon blynyddol ac achlysurol o rywogaethau adar ar draws Cymru eu dadansoddi.

Yn 么l Patrick Lindley, arbenigwr adar CNC mae'r canlyniadau'n rhai "trawiadol".

"Mae angen gweithredu ar frys, yn gynt nag erioed o'r blaen, i geisio atal y dirywiad," meddai.

Drudwy yn gostwng 72%

Yn 么l yr adroddiad mae adar a arferai fridio - rhai fel yr eos, bras yr 欧d a hutan y mynydd wedi diflannu'n llwyr o Gymru.

Mae 'na bryderon hefyd am ddyfodol drudwy sy'n bridio, ar 么l i'w niferoedd ostwng 72% rhwng 1995-2016.

Ymysg y rhywogaethau eraill sydd dan fygythiad mae'r rhai sy'n dibynnu ar dir amaethyddol - adar fel y gylfinir, cornchwiglen, cwtiad aur, grugiar ddu a'r durtur.

Dywedodd Neil Lambert, Pennaeth Rheoli Cadwraeth RSPB Cymru, y dylai'r adroddiad ddylanwadu ar yr ymdrechion i geisio datblygu system newydd o daliadau amaethyddol ar 么l Brexit.

"Gyda 90% o dir Cymru yn cael ei ffermio mae arferion amaethyddol yn cael effaith enfawr ar adar a bywyd gwyllt arall.

"Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfle unigryw i ni ddatblygu polisiau rheoli tir newydd ar gyfer Cymru fydd yn helpu ein ffermwyr ni adfer byd natur."

Ffynhonnell y llun, Andy Hay/RSPB
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y grugieir du wedi gostwng yn sylweddol

Eglurodd Rheon Pritchard o WOS bod dirywiad poblogaethau adar yn arwydd o broblemau ehangach yn yr amgylchedd.

Dywedodd: "Maen nhw fel y caneri mewn pwll glo os liciwch chi - yn dangos bod na bethau eraill yn mynd o'u lle a mae hynny'n mynd i effeithio ar lawer o rywogaethau eraill heblaw adar."

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod adar morol yn gwneud yn well ar y cyfan, ond roedd pryderon am rai - gan gynnwys yr wylan goesddu sydd wedi gostwng 35% yng Nghymru ers 1986 a'r wylan benddu sydd wedi gostwng 52% ers 1970.

Mae'n pwysleisio hefyd pwysigrwydd Cymru yn rhyngwladol ar gyfer rhai rhywogaethau morol - gyda 60% o adar drycin Manaw'r byd yn bridio oddi ar arfordir Sir Benfro.

'Gwirfoddolwyr yn bwysig'

Ymysg yr adar sy'n ffynnu mae'r barcud coch, sydd wedi gweld cynnydd o 386% yn ei niferoedd rhwng 1986 a 1996,

Yn ogystal mae garanod wedi bridio am y tro cyntaf yng Nghymru ers 400 o flynyddoedd yn 2016 ar Wastadeddau Gwent.

Ffynhonnell y llun, Ben Hall/RSPB
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer y barcutiaid coch wedi cynyddu'n ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf

Dywedodd Kelvin Jones, o BTO Cymru, ei fod yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn helpu i dargedu gwaith cadwraeth ar gyfer y dyfodol.

"Mae hyn yn ddata hirdymor y gallwn ni," meddai, "ei ddefnyddio i benderfynu ble mae pethau'n mynd o le, a bydd modd gweithredu wedyn i geisio newid y sefyllfa."

Gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o waith monitro adar yng Nghymru, gan gyfrannu dros 5000 o oriau bob blwyddyn i wneud arolygon, yn 么l yr adroddiad.

Mae'r awduron yn canmol ymroddiad y gwirfoddolwyr, gan ddweud eu bod "yn chwarae rhan allweddol" wrth geisio achub rhywogaethau prin yng Nghymru.