91热爆

Ateb y Galw: Yr actor Aneirin Hughes

  • Cyhoeddwyd
Aneirin Hughes

Yr actor Aneirin Hughes, o'r cyfresi poblogaidd Y Gwyll ac Un Bore Mercher, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Gillian Elisa yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

John Henry Lefel Gopr yn ceisio neud i fi chwerthin fel un bach yn y pram. Ni allaf fynd mewn i'r manylion, rwy'n dal i gael triniaeth.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Valerie Singleton ac Auntie Gwladys.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Bo' fi'n ffansio Auntie Gwladys.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Pan droiodd Valerie Singleton fi lawr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cariad Aneirin tuag at Valerie yn fythol

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Penbontrhydybeddau - lle fy magwyd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Nosweithiau pan anwyd y plant.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Druid, C诺ps, Maes.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Cloud Of Unknowing gan A. Nonymous. Achos ma' wastad rhywbeth i ddysgu.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

G茅rard Depardieu. Achos ma' hwnna'n gwbod shwd i yfed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r actor G茅rard Depardieu yn gallu yfed... ond efallai fod hynny wedi ei gael i mewn i drwbl weithiau...

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dechreuais G么r Meibion yn Nhrefynwy.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael peint a rhoi'r byd yn 'i le - fel pob dydd arall.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Dove sono i bei momenti allan o Le Nozze di Figaro, lle mae'r Countess Almaviva yn canu am anffyddlondeb ei g诺r, yr hen Count.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf, sawl un, digon o amrywiaeth - a moules marini茅re heb hufen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Aneirin yn edrych ychydig llai trwsiadus nag arfer wrth bortreadu Moc Thomas ar Pobol y Cwm

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Peter Purves - cyn-gariad i Valerie Singleton.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Lisa Victoria

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 91热爆 Cymru Fyw