91热爆

ACau'n pleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit Theresa May

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mark Drakeford oedd yn arwain y drafodaeth ar ran Llywodraeth Cymru

Mae Aelodau Cynulliad wedi gwrthod cytundeb drafft Brexit Theresa May mewn pleidlais symbolaidd ym Mae Caerdydd.

Fe wnaeth ACau Llafur gefnogi cynnig gan Blaid Cymru yn y ddadl wedi ffrae dros safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater.

Roedd y cynnig yn gwrthod cytundeb Mrs May yn glir ac yn galw ar y DU i aros o fewn Marchnad Sengl ac undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd.

Cafodd ei gymeradwyo o 34 pleidlais i 16, ond dyw'r canlyniad ddim yn gorfodi Llywodraeth y DU i weithredu.

Yn ystod dwy awr o drafodaeth fywiog yn y Senedd fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford nad yw'r cytundeb rhwng y DU a'r UE yn "ateb gofynion sylfaenol Cymru a'r Deyrnas Unedig".

Dywedodd Plaid Cymru gall y cytundeb fod yn "niweidiol" i gymunedau Cymraeg, gan alw am refferendwm arall er mwyn dod a'r "impasse gwleidyddol" i ben.

Cafodd ACau Llafur a Phlaid Cymru eu cyhuddo o "geisio tanseilio democratiaeth" gan aelodau Ceidwadol oherwydd eu hymdrech i "ddadwneud canlyniad y refferendwm".

Doedd y drafodaeth yn y Senedd ar gytundeb drafft Brexit ddim yn un gorfodol, sy'n golygu nad oes yn rhaid i Lywodraeth y DU ddilyn y gorchymyn.

Yn ystod y drafodaeth gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, i ACau gefnogi'r cytundeb gan fod y "cloc yn ticio, a dyma'r unig gynnig ar y bwrdd".

Ychwanegodd: "Yr eironi yw bod gan Brexit fwy o gyfreithlondeb, a mandad mwy gan y cyhoedd na Llywodraeth Cymru - sy'n ymddangos i mi fel eu bod nhw'n ceisio gwrthdroi'r canlyniad.

"Heb os roedd refferendwm Brexit yn hollti barn, ond os yw'r rhwyg a'r ansicrwydd yma yn parhau yna mae'n peryglu ein heconomi a'n gwasanaethau cymdeithasol."

'Cywilydd cenedlaethol'

Ond yn 么l AC UKIP, Neil Hamilton, nid yw cytundeb Theresa May yn parchu canlyniad y refferendwm yn 2016.

"Mewn termau gwleidyddol mae wedi achosi cywilydd cenedlaethol. Ildiad sydd wedi rhoi i'r UE yr hyn yr oedden nhw eisiau, ac wedi cynnig dim i'r DU," meddai Mr Hamilton.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Paul Davies fod yr ansicrwydd presennol yn peryglu economi a gwasanaethau cymdeithasol Cymru

Cyn y drafodaeth yn y Senedd, roedd Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio 芒 chyflwyno cynnig yn gwrthod y cytundeb Brexit yn blaen.

Parhau gyda'r feirniadaeth wnaeth AS Plaid, Steffan Lewis ddydd Mawrth: "Bob hyn a hyn fel seneddwyr mae gofyn i ni wrando ar ein cydwybod cyn pleidleisio ar faterion wirioneddol hanesyddol.

"Mae fy nghydwybod i yn dweud y gallai'r cytundeb sydd wedi ei gynnig fod mor niweidiol i'r cymunedau rydyn ni'n eu cynrychioli, fel nad yw'r Cytundeb Ymadael na'r Datganiad Gwleidyddol yn haeddu cefnogaeth y Senedd hon."

Fe wnaeth Mr Lewis alw ar ei gyd ACau i gefnogi safbwynt Plaid Cymru wrth alw am refferendwm ar y cytundeb Brexit.

'Annerbyniol'

Dywedodd yr ACau Llafur, Lynne Neagle a Joyce Watson, eu bod nhw'n cefnogi safbwynt Plaid Cymru ar 么l cael caniat芒d arbennig gan gr诺p y blaid.

Wrth arwain y drafodaeth ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Drakeford y byddai Cymru yn elwa o aros fel rhan o'r UE a dylid gwrthod cytundeb Ms May.

"Rwy'n gobeithio bydd y Cynulliad yn gyrru neges glir y prynhawn 'ma fod y cytundeb sydd wedi ei negodi gan y Prif Weinidog yn annerbyniol," meddai.