Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Amser yn brin' i baratoi ar gyfer gadael heb gytundeb
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru "gynyddu'r ymdrechion" i baratoi y gwasanaeth iechyd ar gyfer Brexit, yn 么l gr诺p o ACau.
Mae pwyllgor Brexit y cynulliad wedi clywed bod "amser yn prinhau" i baratoi ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y gallai senario heb gytundeb fod yn "drychinebus" i'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r DU fod i adael yr UE ym Mawrth 2019.
Hwn yw'r adroddiad diweddaraf i asesu a yw Cymru yn barod ar gyfer ymadawiad y DU 芒'r UE - yn gynharach eleni cafodd asesiad ei wneud ar yr effaith ar borthladdoedd Cymru.
Mae'r pwyllgor wedi cael tystiolaeth gan arbenigwyr y gwasanaeth iechyd - gan gynnwys meddygon a nyrsys.
Ond mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn rhybuddio nad "oes digon o amser ar 么l" i ddelio 芒'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.
Mae Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb ymadael gyda Brwsel ond mae'r cytundeb wedi wynebu cryn wrthwynebiad yn San Steffan a dyw e ddim yn debygol o gael cefnogaeth y mwyafrif o ASau yn y bleidlais wythnos nesaf.
Mae Theresa May yn rhybuddio mai'r unig ddewis arall yw gadael yr UE heb gytundeb.
Eisoes mae gweinidogion Brexit y DU wedi annog cwmn茂au fferyllyddol i archebu cyflenwad chwe wythnos o feddyginiaethau.
Clywodd pwyllgor y cynulliad bod 45 miliwn o becynnau moddion i gleifion yn symud o'r DU i'r EU bob mis ac y mae 37 miliwn yn symud i'r cyfeiriad arall.
Dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys wrth ACau: "Wedi Brexit mae'n bosib y bydd y DU yn ei chael hi'n fwy anodd dod o hyd i feddyginiaethau - yn enwedig os y byddwn yn creu fframweithiau gwahanol i'r hyn sy'n cael ei orchymyn gan reolau Ewrop.
"Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i gleifion aros cyn cael cyffuriau newydd ac fe allai hynny fod yn niweidiol."
'Effaith andwyol ar staffio'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor David Rees: "Mae'r cyflenwad helaeth o feddyginiaethau sy'n mynd i'r naill gyfeiriad a'r llall a'r ffaith y bydd yna oedi posib i gael cyffuriau wedi'n hargyhoeddi bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gael cynlluniau er mwyn atal hyn rhag digwydd."
Mae yna bryderon hefyd am effaith posib Brexit ar staffio'r Gwasanaeth Iechyd.
Yn 么l BMA Cymru: "Bydd y gostyngiad yn nifer y meddygon sy'n dod i Brydain a'r cynnydd yn y nifer sy'n gadael y DU oherwydd Brexit yn cael effaith andwyol ar staffio'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ar draws y DU."
Dywedodd Mr Rees: "Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r ymdrechion i baratoi y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar gyfer Brexit."
'Trychinebus'
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, gallai Brexit heb gytundeb fod yn "drychinebus i wasanaethau iechyd a chymdeithasol Cymru".
"Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cyflenwad o feddyginiaethau ac maent wedi cytuno gyda diwydiant fferyllyddol y DU y byddant yn cadw chwe wythnos yn fwy o stoc yn y DU," meddai.
"Fodd bynnag, mae sicrhau llif cyson o gyflenwadau yn angenrheidiol i nifer o bobl sy'n dibynnu ar feddyginiaethau ac fe fyddwn yn pwyso ar lywodraeth y DU i wneud yn si诺r fod cwmn茂au yn gweithredu'r cynlluniau.
"Byddwn yn ymateb i adroddiad y pwyllgor maes o law."