Pwyllgor: Brexit yn 'fygythiad i borthladdoedd Cymru'
- Cyhoeddwyd
Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd fygwth porthladdoedd Cymru ac achosi oedi ar y ffyrdd, yn 么l un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn dweud nad oes gan nifer o borthladdoedd y capasiti i ddelio 芒 rheolau ffiniau a thollau newydd a allai fod yn ofynnol yn dilyn Brexit.
Yn 么l y pwyllgor, fe allai hynny arwain at oedi hir a thagfeydd ar y ffyrdd gan amharu ar gadwyni cyflenwi nwyddau os nad oes cynllunio priodol.
Cododd y pwyllgor bryderon hefyd fod yr Ysgrifennydd dros yr Economi, Ken Skates, wedi bod yn araf yn ceisio cyfarfod 芒 gwleidyddion yn Iwerddon a gwledydd eraill o fewn yr UE ar faterion am borthladdoedd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn croesawu adroddiad y pwyllgor a'u bod am ystyried y cynnwys cyn ymateb yn ffurfiol.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru:
Bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd porthladdoedd Cymru o dan anfantais annheg o ganlyniad i drefniadau 'ffin feddal' rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon a allai arwain at ail-lwybro nwyddau i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban;
Ceisio cael eglurder gan Lywodraeth y DU am gost a system ariannu unrhyw drefniadau tollau newydd;
Llunio cynlluniau manwl ar gyfer porthladdoedd Cymru ar gyfer senarios y gallai'r DU eu hwynebu ar ddiwedd cyfnod gweithredu Erthygl 50.
Dywedodd David Rees AC, cadeirydd y pwyllgor ei bod hi'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau nad yw'r porthladdoedd "dan anfantais yn sgil Brexit".
Ychwanegodd bod porthladdoedd Cymru yn cynnal mwy na 18,400 o swyddi yn uniongyrchol.
"Mae gan llawer o'r porthladdoedd ddiffyg capasiti corfforol o ran ymdopi 芒 chanllawiau gwirio ffiniau a thollau newydd. Gallai'r sefyllfa yma achosi mwy o oedi a thagfeydd.
"Mae rhai yn y diwydiant hefyd yn pryderu y gallai'r sefyllfa o gael ffin feddal yng Ngogledd Iwerddon, tra bod ffin galed ar draws M么r Iwerddon, arwain at risgiau i borthladdoedd Cymru, oherwydd y gallai arwain at ail-lwybro nwyddau i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban.
"Byddai hyn yn cael effaith economaidd ddifrifol yng Nghymru."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn ein papur gwyn, Sicrhau Dyfodol Cymru, rydym yn amlinellu ein blaenoriaeth ar gyfer Brexit - gan gynnwys y pwysigrwydd o beidio ag amharu ar fasnachu.
"Rydym hefyd yn pwysleisio bydd unrhyw newid i fewnfudo neu reolau tollau yn cael effaith andwyol ar borthladdoedd Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2017