Blaenau Ffestiniog yn gobeithio elwa o statws awyr dywyll
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Blaenau Ffestiniog yn gobeithio bydd statws awyr dywyll yn Eryri yn denu mwy o dwristiaid ac yn hwb i'r economi leol.
Dim ond 11 lleoliad ar draws y byd sydd wedi derbyn statws awyr dywyll.
Dros y flwyddyn ddiwetha' mae plant yr ardal wedi bod yn gweithio gyda'r artistiaid Rachel Rosen ac Andy Birch ar weithiau celf i gynrychioli pob rhan o Gysawd yr Haul, y s锚r a'r planedau.
Yn 么l un o'r trefnwyr, Zoe Pritchard mae busnesau yn gallu cymryd mantais o'r cynllun ac mae'n denu mwy o ymwelwyr i'r ardal ac yn denu pobl o du allan i'r tymor twristiaeth arferol.
'Codi ymwybyddiaeth'
Mae dau leoliad statws awyr dywyll yng Nghymru. Mae Bannau Brycheiniog eisoes wedi derbyn y statws yn 2013, ac fe dderbyniodd Eryri'r gydnabyddiaeth yn 2015.
Mae'r statws yn golygu fod y lleoliad yn swyddogol yn un o'r llefydd gorau yn y byd i weld s锚r.
Mae'r gwaith celf ym Mlaenau Ffestiniog wedi'u gosod ym musnesau'r ardal ac yn rhan hefyd o 'Lwybr Cysawd Eryri'.
Un o'r ysgolion fu'n rhan o'r prosiect ydy Ysgol Maenofferen yn y dref, ac yn 么l y Pennaeth Aled Williams roedd yn gyfle arbennig i'r disgyblion godi ymwybyddiaeth o'r statws awyr dywyll.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fod y plant yn ymwybodol o'r statws ac yn yr ardal leol hefyd, ac mi wnaeth y plant fwynhau'r cyfle o fod yn rhan o'r prosiect ac am gael lledaenu'r neges drwy gyfrwng celf hefyd," meddai.
'Lot o gyffro'
Un o'r busnesau sy'n cymryd rhan yn y prosiect yw caffi Kiki.
Dywedodd y perchennog Kiki Rees Stavros fod yr ymateb lleol wedi bod yn "gr锚t" a bod yna "lot o gyffro" yn yr ardal.
Ychwanegodd: "Mae'n dod 芒 phobl i mewn ac maen nhw'n dysgu mwy am y cynllun. Mae'n gyfle i bobl fod yn falch o'r statws yma sydd ddim mewn lot o lefydd yn y byd, felly mae'n beth da iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013