91Èȱ¬

Ymosodiad ar gyn-gapten Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth Thomas, the former Wales captainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Datgelodd Gareth Thomas ei fod yn hoyw yn 2009

Dywed cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas, ei fod wedi dioddef "trosedd casineb" yng Nghaerdydd nos Sadwrn oherwydd ei rywioldeb.

Mae e wedi diolch i'r heddlu ac wedi gofyn i'r sawl a ymosododd arno i gael "cyfiawnder adferol" am ei fod yn credu mai "dyna'r ffordd orau i bobl ddysgu".

Mewn fideo ar ei gyfrif trydar mae'r cyn-chwaraewr rygbi yn ymddangos gyda chleisiau ac anafiadau i'w wyneb.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Gareth Thomas

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Gareth Thomas

Mae Gareth Thomas, 44 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ennill 100 cap i Gymru ac wedi bod yn gapten ar dîm Cymru a thîm Y Llewod.

Datgelodd ei fod yn hoyw yn 2009 gan ddweud ei fod wedi bod yn cuddio ei rywioldeb am flynyddoedd.

Yn y fideo mae Thomas yn dweud: "Neithiwr [nos Sadwrn] roeddwn yn ddioddefwr o drosedd casineb yn fy ninas fy hun a hynny oherwydd fy rhywioldeb."

Mae e'n diolch i'r bobl hynny yng Nghaerdydd a ddaeth i'w helpu gan ddweud: "Mae yna lawer iawn o bobl allan yna sydd am ein brifo ond yn anffodus iddyn nhw mae llawer mwy sydd am ein helpu i wella ac felly rwy'n gobeithio fod y neges yma yn un bositif."

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi holi bachgen 16 oed ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd tua 21:00 nos Sadwrn.

Mewn datganiad dywedodd y llu: "Ar gais Mr Thomas rydym wedi delio â'r achos gyda "chyfiawnder adferol" - mae'r bachgen wedi cyfaddef ei ran yn yr ymosodiad ac ymddiheuro am ei weithred.

"Nod cyfiawnder adferol yw rhoi anghenion y dioddefwr wrth wraidd y system cyfiawnder, a dod o hyd i ddatrysiad positif ac annog pobl ifanc i fod yn atebol am eu gweithredodd."

Ychwanegodd y datganiad: "Does yna ddim lle i droseddau casineb yn ein cymdeithas ac maen nhw'n cael eu blaenoriaethu gan Heddlu De Cymru."