91热爆

S4C yn agor eu pencadlys newydd yng Nghaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
S4C Egin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canolfan Yr Egin wedi ei lleoli ar d卯r Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin

Mae pencadlys newydd S4C yng Nghaerfryddin wedi ei agor yn swyddogol gan Ysgrifennydd Diwylliant Y DU, Jeremy Wright ddydd Iau.

Fe wnaeth S4C gyhoeddi eu bwriad i adleoli yn 2014 gan ddweud y byddai 50 o swyddi yn symud o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Yn 么l y darlledwr roedd y gwaith o symud y pencadlys yn gost niwtral.

Mae'r swyddfeydd newydd o fewn adeilad yr Egin, y ganolfan dan ofal Prifysgol y Drindod Dewi Sant i ddatblygu'r diwydiannau creadigol, gafodd ei hagor ei hagor fis diwethaf.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant gyfaddef nad oedd erioed wedi gwylio S4C, ond dywedodd Mr Wright: "Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, o rai o'r pethau gwych sy'n cael eu cynhyrchu... Keeping Faith, Hidden - mae'r rhain yn llwyddiannau go iawn.

"Ac nid dim ond darlledu yn y Gymraeg sy'n llwyddiannus, ond y pentyrrau o dalent yng Nghymru sy'n golygu y gallwn ni gynhyrchu rhaglenni fel Doctor Who, Sherlock a'r gweddill sy'n gwneud Cymru yn ganolfan rhagoriaeth mewn darlledu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Jeremy Wright yng Nghaerfryddin ar gyfer agoriad swyddogol pencadlys S4C

Mae staff gweinyddol S4C wedi symud i Gaerfyrddin wedi i'r sianel ddweud yn 2014 y bydden nhw'n symud o'r pencadlys blaenorol yn Llanishen.

O'r 130 sy'n gweithio i'r sianel, nid pawb fydd yn gweithio yng Nghaerfyrddin. Mae swyddfa yn parhau yn Llanishen ac mae swyddfa hefyd yng Nghaernarfon.

Dywedodd y prif weithredwr Owen Evans fod oddeutu 20 o bobl wedi eu recriwtio i weithio yn Yr Egin, ac y byddai'r symud yn "gost-niwtral" dros gyfnod y brydles.

Yn 么l cadeirydd S4C, Huw Jones, mae'r symud yn un "pwysig yn economaidd a diwylliannol" i'r sianel, ond fod y penderfyniad wedi golygu fod rhai staff profiadol wedi gadael y sefydliad.

"Ry'n ni wedi colli rhai staff da dros y misoedd diwethaf," meddai. "Pobl sydd ddim wedi medru gwneud y penderfyniad personol i adleoli... ac mae hynny wedi bod yn anodd oherwydd mae'r rhain wedi bod yn bobl dda sydd wedi gwneud cyfraniad clodwiw.

"Ond wrth i ni symud ymlaen a hysbysebu'r swyddi yna, yna rydyn ni'n gweld cenhedlaeth newydd o bobl ym mhencadlys S4C sy'n mynd i roi eu marc ar y lle."

Pan ofynnwyd i Mr Jones a oedd yn nerfus am allu S4C i lenwi rhai o'r swyddi yna, atebodd: "Dydw i ddim yn besimistaidd.

"Rhaid i ni weithio'n galed i wneud hynny, ac mewn rhai achosion mae'n mynd i gymryd amser i bobl gorllewin Cymru i dderbyn y syniad y gallai fod yna swydd dda ar eu stepen drws yn hytrach na symud i Gaerdydd, Llundain neu le bynnag.

"Dyna'r meddylfryd sydd wedi bodoli ers llawer rhy hir mewn ardaloedd cefn gwlad... bod y trefi bach yn llefydd i symud oddi wrthyn nhw. Mae hynny'n newid diwylliannol mawr yr ydym yn rhan ohono yn y fan hyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd pencadlys S4C ei agor yn swyddogol ddydd Iau

Dywedodd Owen Evans mai ei fwriad yw gweithio rhan o'r wythnos yn yr Egin.

"Mae swyddfa 'da ni yng Nghaerdydd a swyddfa 'da ni yng Nghaernarfon hefyd," meddai.

"Felly mi fydda i lan yng Nghaerfyrddin dwy, dair gwaith yr wythnos.

"Caerdydd falle un dydd yr wythnos a falle Llundain neu Gaernarfon un dydd yr wythnos.. 'dwi'n trafeilio o gwmpas ble bynnag mae angen."

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyfrannu 拢3m at y gwaith o adeiladu'r Egin, gyda 拢3m arall yn dod o fargen ddinesig Bae Abertawe.