Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 91热爆 - Rheolau鈥檙 Gystadleuaeth
- Cyhoeddwyd
Dyma'r Telerau ac Amodau ar gyfer cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 91热爆 2019.
Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y DU (gan gynnwys preswylwyr Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) sydd rhwng 11 a 18 oed ar y dyddiad cau, sef 26 Hydref 2019.
Nid yw'r gystadleuaeth ar agor i'r rheini 芒 chysylltiad agos ag aelodau staff cwmni y 91热爆 neu Gr诺p y 91热爆 neu weithwyr llawrydd y 91热爆. Mae Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 91热爆 yn gystadleuaeth 91热爆 sy'n cael ei chynnal gan staff y 91热爆.
Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ofyn am brawf o oedran yn ogystal 芒 chaniat芒d rhiant neu warcheidwad.
Gall ceisiadau gael eu cyflwyno gan unigolyn neu gr诺p. Ond, dim ond UN cais sy'n cael ei ganiat谩u i bob unigolyn neu gr诺p. Bydd y cais cyntaf yn cael ei ystyried, bydd y ceisiadau ar 么l hynny'n cael eu diystyru.
Bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried pan fyddant yn cael eu cyflwyno drwy'r system ar-lein. Dim ond ceisiadau Saesneg fydd yn cael eu hystyried oni bai eich bod yn cyflwyno cais o Gymru, lle mae ceisiadau Cymraeg yn cael eu caniat谩u hefyd. At ddibenion beirniadu ceisiadau Cymraeg, bydd y ceisiadau'n cael eu cyfieithu i'r Saesneg. Nid oes unrhyw ddull ymgeisio arall yn cael ei ganiat谩u (mae hyn yn cynnwys e-bost neu'r post). Gall ceisiadau gael eu hysgrifennu, eu recordio neu eu ffilmio.
Ni ddylai ceisiadau ysgrifenedig fod yn hirach na 500 gair. Ni ddylai fideos neu recordiadau sain fod yn hirach na thri munud. Ni fydd unrhyw gais sy'n rhy hir yn cael ei ystyried, felly gwnewch yn si诺r nad yw eich cais yn hirach na'r hyd mwyaf.
Hefyd, rhaid i bob cais gynnwys, mewn dim mwy na 500 o eiriau, amlinelliad sy'n dweud pam eich bod am rannu eich stori 芒 chynulleidfa'r 91热爆.
Rhaid i'r cais sy'n cael ei gyflwyno fod yn waith gwreiddiol yr ymgeisydd ei hun ac ni ddylai ddifenwi na thorri unrhyw hawlfraint, na chynnwys unrhyw beth a allai gael ei ystyried yn annymunol neu amhriodol. Bydd unrhyw ddeunydd sy'n cael ei ystyried yn anaddas yn cael ei ddileu o'r broses feirniadu a'i wahardd. Dylai'r ymgeiswyr gadw copi oherwydd ni fydd unrhyw geisiadau'n cael eu dychwelyd.
Rhaid i'r cais gael ei gyflwyno gyda'r holl wybodaeth y gofynnir amdani drwy'r broses gyflwyno ar-lein. Ni fydd unrhyw gais nad yw'n cynnwys yr wybodaeth yn gais dilys ac ni fydd yn mynd ymlaen yn y gystadleuaeth.
Rhaid cael caniat芒d rhiant cyn i bobl ifanc gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Os byddwn yn cael ceisiadau heb ganiat芒d rhiant, bydd y 91热爆 yn cysylltu 芒'r ymgeisydd ac yn gofyn am ganiat芒d rhiant. Os na fydd yn cael ei roi ar gais, bydd yr ymgeisydd yn cael ei wahardd.
Bydd unrhyw straeon sy'n codi pryderon am ddiogelwch neu les person ifanc yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cymorth perthnasol neu awdurdodau i ymchwilio. Er diogelwch, bydd y ceisiadau hyn yn cael eu tynnu'n 么l o'r broses gystadlu hefyd.
Rhaid cyflwyno'r ceisiadau i'r 91热爆 erbyn 23:59:59 ar 26 Hydref 2019 fan bellaf. Bydd ceisiadau hwyr, anghyflawn neu anghlywadwy yn cael eu gwahardd. Ni all y 91热爆 dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol, a all arwain at atal unrhyw gais, neu at beidio 芒 chofrestru neu recordio unrhyw gais yn iawn.
Mae'r 91热爆 yn cydnabod y bydd perchnogaeth ar unrhyw hawliau eiddo deallusol yn y cais yn aros gyda'r ymgeiswyr, ond y bydd cymhwyso rhiant neu warcheidwad pob ymgeisydd yn rhoi'r hawl anghyfyngedig i'r 91热爆 ddefnyddio neu ailgynhyrchu, am ddim, y cais neu ran ohono at ddibenion y gystadleuaeth, gan gynnwys rhoi cyhoeddusrwydd i'r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng a phob cyfrwng am byth ledled y byd, gan gyflawni'r wobr ac unrhyw gyhoeddusrwydd / sylw cysylltiedig yn ymwneud 芒'r gystadleuaeth ar unrhyw wasanaeth, sianel neu lwyfan ar-lein cwmni'r 91热爆 neu Gr诺p y 91热爆 gan y 91热爆, ei is-gwmn茂au neu drydydd part茂on y mae wedi'u dewis.
Bydd y ceisiadau'n cael eu beirniadu gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol:
Gwerth golygydd - cryfder y stori a'r ongl / addasrwydd y stori i'r llwyfan
Gwreiddioldeb a / neu bersbectif unigryw
Cymhelliant i adrodd y stori
Bydd y beirniaid hefyd yn gobeithio gweld ystod o straeon amrywiol yn cynrychioli amrywiaeth o bynciau ledled y Deyrnas Unedig a bydd y casgliad terfynol o straeon yn adlewyrchu hyn.
Bydd y straeon ar y rhestr fer yn cael eu gwirio cyn y rowndiau beirniadu terfynol. Rhaid i bob stori gydymffurfio 芒 Chanllawiau Golygyddol y 91热爆, yn ogystal 芒 bod yn gadarn yn gyfreithiol.
Bydd y gwaith o feirniadu a llunio rhestr fer yn digwydd mewn sawl rownd. Byddwn yn cysylltu 芒'r ymgeiswyr fydd yn cyrraedd y brig ym mhob categori yn y rownd gyntaf er mwyn dilysu eu ceisiadau. Byddant wedi cael eu dilysu erbyn 20 Ionawr 2020. Os, ar 么l ymdrechion rhesymol i gysylltu, nad yw'r cais wedi'i ddilysu, mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddiystyru'r cais hwnnw.
Yn ystod y broses ddilysu, bydd staff Gohebydd Ifanc y 91热爆 yn cysylltu 芒 rhiant/gwarcheidwad yr ymgeiswyr er mwyn gwirio cymhwysedd a gwreiddioldeb y cais, a all gynnwys siarad ag unigolion a/neu aelodau o'r gr诺p sydd wedi cyfrannu at lunio'r cais. Os nad oes modd cysylltu ag ymgeisydd neu ei riant/gwarcheidwad ar 么l ymdrechion rhesymol i wneud hynny, mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i gynnig ei le i'r ymgeisydd gorau nesaf. Ni fyddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus.
Ar 么l cwblhau'r broses ddilysu, bydd y ceisiadau'n mynd ymlaen i'r rownd feirniadu nesaf. Bydd paneli beirniadu a fydd yn defnyddio'r un meini prawf, fel y nodir uchod, yn llunio'r rhestr fer derfynol.
Yna bydd y rhain wedyn yn mynd ymlaen i'r rownd feirniadu derfynol, a fydd yn cael ei chynnal gan baneli o olygyddion a newyddiadurwyr y 91热爆. Bydd y paneli beirniadu hyn yn defnyddio'r un meini prawf, fel y nodir uchod, i bennu'r enillwyr terfynol.
Bydd un enillydd Aur, Arian ac Efydd ym mhob un o Wledydd y 91热爆 a Rhanbarthau Lloegr y 91热爆 a ganlyn: Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru, Gogledd Lloegr, Canolbarth Lloegr, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr (cyfanswm o 21 cystadleuydd).
Bydd enillydd Aur, Arian ac Efydd cyffredinol yn y DU ar gyfer pob categori a gr诺p oedran (cyfanswm o 12 cystadleuydd.) Bydd y rhain yn wahanol i'r enillwyr a fydd wedi cael eu dewis gan Wledydd y 91热爆 a Rhanbarthau Lloegr y 91热爆. Bydd goreuon pob ardal yn cael gwobr a byddwn yn penderfynu ar y wobr honno yn ystod y broses feirniadu, yn 么l disgresiwn y beirniaid.
Bydd yr holl enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 9 Mawrth 2020 mewn seremoni wobrwyo. Bydd manylion yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar-lein hefyd yn www.bbc.co.uk/youngreporter.
Bydd pob un sy'n ennill gwobr Aur, Arian neu Efydd yn cael gwobr Gohebydd Ifanc y 91热爆 y Flwyddyn ac yn cael gwahoddiad i seremoni wobrwyo.
Bydd pob un sy'n ennill gwobr Aur yn cael gweithio gyda th卯m newyddiaduraeth neu gynhyrchu y 91热爆 i baratoi ei stori ar gyfer radio, teledu, llwyfan ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol. Bydd y stori'n cael ei darlledu ar un o'r llwyfannau hyn gan y 91热爆 yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 9 Mawrth 2020 oni bai fod yr enillydd a'r t卯m cynhyrchu yn cytuno ar ddyddiad arall (bydd hyn yn caniat谩u ar gyfer yr angen golygyddol i ddarlledu neu wneud y cynnwys ar adeg arall i gyd-fynd ag angen o ran agenda newyddion/darlledu). Efallai y bydd enillwyr ac ymgeiswyr eraill yn cael y cyfle hwn hefyd yn seiliedig ar gryfder golygyddol y straeon a'r gofynion a'r argaeledd o ran darlledu.
Bydd penderfyniad y 91热爆 a'r beirniaid yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu'n digwydd mewn perthynas 芒'r gystadleuaeth.
Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr gymryd rhan mewn darlledu ar 么l y gystadleuaeth, yn ogystal 芒 chyhoeddusrwydd ar-lein neu brint.
Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ganslo'r gystadleuaeth neu newid unrhyw un o'r rheolau hyn os ar unrhyw adeg y bydd yn credu bod hynny'n angenrheidiol neu os y bydd amgylchiadau'n codi sydd y tu hwnt i'w reolaeth. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau o'r fath mewn da bryd. Ni ellir dal y 91热爆 yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl sy'n ymwneud 芒 gorfod canslo neu ohirio'r gystadleuaeth.
Mae'r gystadleuaeth hon yn cydymffurfio 芒 Chod Ymddygiad y 91热爆 ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio, y gellir eu gweld yma.
Ni chaiff y 91热爆, ei is-gontractwyr, ei is-gwmn茂au a/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall ag unrhyw weinydd, mynediad rhyngrwyd, system neu fel arall a all arwain at beidio 芒 chofrestru neu recordio unrhyw gais yn iawn.
Mae'r telerau ac amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2019