91热爆

Pwysau ar undebau i gyfrannu arian i elusen Doddie Weir

  • Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Weir ennill 61 o gapiau i'r AlbanFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Weir ennill 61 o gapiau i'r Alban

Mae Undebau Rygbi Cymru a'r Alban wedi cadarnhau nad ydynt yn gwneud cyfraniad ariannol uniongyrchol i elusen motor neurone Doddie Weir, er bydd y ddau d卯m yn cystadlu am Gwpan Doddie Weir ddydd Sadwrn.

Ar wefannau cymdeithasol mae rhai cefnogwyr wedi dweud eu bod wedi prynu tocynnau gan gredu y byddai rhan o'r arian yn mynd tuag at yr elusen.

Fe wnaeth Weir, cyn glo'r Alban, gyhoeddi ym Mehefin 2017 ei fod yn dioddef o'r cyflwr.

Nos Sul ar raglen Scrum V y 91热爆, fe wnaeth y sylwebyddion Jonathan Davies, Andy Robinson a Peter Jackson annog y ddau undeb i gyfrannu'n uniongyrchol at yr elusen.

Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod wedi bod yn gefnogol i Sefydliad Doddie Weir.

Mae'r g锚m ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Principality yn rhan o gyfres yr Hydref ac wedi ei henwi fel teyrnged i'r cyn flaenwr wnaeth ennill 61 o gapiau i'r Alban.

Eisoes cafodd nifer o ddigwyddiadau casglu arian eu cynnal cyn y g锚m, gan gynnwys noson yng nghwmni Weir, Gregor Townsend a Shaun Edwards.

Dyw'r g锚m erioed wedi cael ei hysbysebu fel g锚m yn benodol ar gyfer yr elusen.

Ffynhonnell y llun, 91热爆 Sport
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Panelwyr Scrum V: Jonathan Davies, Andy Robinson a Peter Jackson

Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod wedi bod ynghlwm 芒 gweithgareddau codi arian ar gyfer Sefydliad Doddie Weir.

"Roedd sefydlu Cwpan Doddie Weir yn arwydd o gefnogaeth yr Undeb ac Undeb Rygbi'r Alban, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o gyflwr motor niwron, yn ogystal 芒 sicrhau cyfraniadau i waith Sefydliad Doddie Weir," meddai llefarydd.

"Fe fyddan ni'n cystadlu am y Gwpan pryd bynnag fydd y ddau d卯m yn cwrdd eto mewn amgylchiadau tebyg."

"Ar ddiwrnod y g锚m fe fydd enw Sefydliad Doddie Weir i'w weld yn amlwg ar sgriniau o fewn y stadiwm, fe fydd yna hysbysebion LED a hefyd sylw yn rhaglen y g锚m a bydd cynulleidfa o filiynau yn gwylio'n fyw ar y 91热爆, gyda Doddie a'i deulu yn westeion arbennig Undeb Rygbi Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Doddie Weir fod y g锚m yn "anrhydedd mawr i Doddie sy'n falch bod y gystadleuaeth newydd yn cynnwys ei enw.

"Mae'r Sefydliad yn gwerthfawrogi cefnogaeth undebau rygbi Cymru a'r Alban, a'r gymuned rygbi ehangach. "