'Angen datganoli plismona a chyfiawnder'
- Cyhoeddwyd
Nid yw trefniadau cyfiawnder presennol Cymru yn addas, ac mae angen datganoli plismona a chyfiawnder er mwyn sicrhau system deg a chyfartal, yn 么l y Cwnsler Cyffredinol.
Mae Jeremy Miles wedi amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y system gyfiawnder yng Nghymru mewn digwyddiad gafodd ei drefnu gan Gymdeithas y Cyfreithwyr ddydd Llun.
Dywedodd bod angen "gweledigaeth" yng Nghymru, er mwyn "adlewyrchu gwerthoedd a nodweddion penodol cymdeithas Cymru".
Hefyd fe ddywedodd mai "un o'r heriau mwyaf i system gyfiawnder deg a chyfartal yw'r pwysau cynyddol a ddaw yn sgil y toriadau parhaus i gyllid".
"Yng Nghymru rydym wedi gweld toriadau anghymesur o uchel i gymorth cyfreithiol o'u cymharu 芒'r toriadau a welwyd ar gyfer Lloegr a Chymru.
"Mae'r ddarpariaeth Cymorth Cyfreithiol yn wynebu argyfwng yn y DU heddiw ac mae'n rhaid i ni weithredu."
'Anghyson'
Ychwanegodd bod uno cyfiawnder 芒 gwasanaethau cyhoeddus yn "her fawr arall".
"Mae ein system lywodraethu bresennol yn gymhleth, yn ddryslyd ac yn anghyson 芒 gweddill y Deyrnas Unedig a deddfwrfeydd datganoledig ar draws y byd."
"Caiff hyn effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cydgysylltiedig, effeithlon ac effeithiol i Gymru."
Fe wnaeth Mr Miles ei sylwadau ar ddechrau rhaglen weithgareddau Wythnos Cyfiawnder, sy'n cael ei threfnu am y tro cyntaf eleni i godi ymwybyddiaeth ynghylch materion yn ymwneud 芒 chyfiawnder a'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd bod hi'n bwysig i "sicrhau lle blaenllaw i gyfiawnder a rheol y gyfraith yn wleidyddol ac yn gyhoeddus, yn enwedig yn ystod cyfnod o newid sylweddol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2016