Pryder Carwyn Jones wedi rhybudd Ford am Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru yn "bryderus" yn dilyn rhybuddion gan Ford y gallai Brexit heb gytundeb gael effaith ar ddyfodol y cwmni yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Carwyn Jones nad oedd "unrhyw un call" yn galw am Brexit heb gytundeb, a galwodd ar drafodwyr y DU a'r UE i ddangos "hyblygrwydd" er mwyn cyrraedd cytundeb.
Dywedodd Theresa May wrth aelodau ei chabinet ddydd Mawrth bod cytundeb o fewn gafael os ydy'r llywodraeth yn "sefyll yn gadarn".
Ond mae'r UE wedi tawelu gobeithion y gallai cytundeb ddod yn ystod uwchgynhadledd sy'n dechrau heddiw.
Roedd trafodwyr ar y ddwy ochr wedi rhagweld y byddai'r cyfarfod deuddydd o arweinwyr gwledydd yr UE ym Mrwsel yn gyfle i gyrraedd cytundeb ar ymadawiad y DU 芒'r UE.
Ond gyda dyfodol y ffin Wyddelig yn parhau i achosi cur pen, dywedodd Llywydd Cyngor Ewrop Donald Tusk nad oedd ganddo unrhyw sail i fod yn obeithiol y bydd datrysiad yr wythnos hon.
Heb gytundeb ar bolisi yswiriant i gadw ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, fydd yna ddim cytundeb Brexit rhwng y DU a'r UE.
Rhybudd Ford
Dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai angen i'r ddwy ochr gyfaddawdu er mwyn rhoi sicrwydd i fyd busnes, ac mai Brexit heb gytundeb sy'n poeni busnesau fwyaf.
Ddydd Llun dywedodd pennaeth Ford yn Ewrop, Steven Armstrong wrth y 91热爆 y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus" i ddiwydiant ym Mhrydain ond ei fod yn "hyderus o hyd" bod modd ffurfio cytundeb masnach heb dollau.
Mae Ford yn cyflogi bron i 2,000 o weithwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef etholaeth Carwyn Jones.
Dywedodd Mr Jones: "Maen nhw'n gyflogwyr mawr yn fy nhref fy hun ac mae'n rhaid i ni wneud yn si诺r nad ydyn ni'n gweld cwmn茂au eraill yn teimlo'r un ffordd, a dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n cael cytundeb da - fel nad ydyn ni'n ei gwneud hi'n fwy anodd i'n busnesau ni weithgynhyrchu a gwerthu i farchnad Ewrop.
"Does dim ffordd hawdd nawr. Mae Theresa May wedi rhoi ei chardiau ar y bwrdd ac mae'n rhaid iddi gyrraedd cytundeb nawr sy'n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen achos dim ond chwarae o gwmpas sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Dwi'n meddwl taw'r broblem fydd cael y cytundeb drwy'r Senedd. Mae'n bosib y gall Theresa May ddod 'n么l gyda chytundeb ond a fydd hi'n gallu cael cefnogaeth ei chydweithwyr yn San Steffan?"
'Posibilrwydd cynyddol'
Dywedodd yr AS Ceidwadol Chris Davies, sy'n aelod o'r Gr诺p Ymchwil Ewropeaidd sy'n cefnogi Brexit, na fyddai'n bosib i Theresa May blesio pob Ceidwadwr.
Ychwanegodd AS Brycheiniog a Maesyfed: "Byddai'n well gen i gael cytundeb, yn sicr. Ry'n ni'n mynd i orfod cael agwedd pragmatig a gwneud yr hyn sydd orau dros ein hetholwyr ni."
Ac yn 么l David Jones, AS Gorllewin Clwyd a'r cyn-weinidog Brexit: "Mae Theresa May yn wydn ac mae'n dweud cryn dipyn amdani ei bod yn parhau i drafod ar 么l y driniaeth wael gafodd hi gan yr arweinwyr eraill yn Salzburg.
"Ond rwy'n amau a fydd yna gynnydd o bwys yn y cyfarfod yma. Bydd y trafod y parhau tan y funud olaf, ac mae Brexit heb gytundeb yn bosibilrwydd cynyddol."
Yn ogystal 芒 chytuno ar bolisi yswiriant ar gyfer y ffin Wyddelig mae angen i drafodwyr y DU a'r UE gytuno hefyd ar fraslun cynllun ar gyfer dyfodol y berthynas rhyngddyn nhw.
Mae syniadau Theresa May - gafodd eu cytuno gyda'i chabinet yn Chequers ym mis Gorffennaf - wedi creu rhaniadau o fewn y blaid Geidwadol gan arwain at ymddiswyddiadau Boris Johnson a David Davis o'r cabinet.
Mae'r cyn-weinidog Brexit Steve Baker wedi dweud y gallai hyd at 40 o ASau Ceidwadol wrthwynebu'r cynllun Chequers os taw dyna fydd sail unrhyw gytundeb gyda Brwsel.
Mae arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Paul Davies, wedi dweud ei fod yn cefnogi cynllun Chequers ac mae wedi galw ar ei gydweithwyr i "gefnogi'r Prif Weinidog".
Dywedodd AC Preseli Penfro: "Rwy'n hyderus o siarad gyda llawer o'm cydweithwyr dros yr wythnosau diwethaf y byddai'r Prif Weinidog yn gallu cael cytundeb drwy D欧'r Cyffredin."
Cymraes ar ffin Iwerddon
Mae Gwenan Lyttle yn byw ar ochr Gogledd Iwerddon y ffin, ym mhentref Pettigo, ond mae hi a'i g诺r yn ffermio yn y Weriniaeth.
Dywedodd Ms Lyttle, sy'n wreiddiol o Dregaron yng Ngheredigion: "Ry'n ni'n croesi'r ffin bedair neu pum gwaith y dydd... mae'n anodd ffermio ar y ffin ac mae'n rhaid cadw'r bunt a'r ewro yn eich poced.
"Ro'n i'n meddwl y byddai popeth wedi sortio o fewn rhai misoedd a dweud y gwir - doeddwn i ddim yn sylweddoli y byddai pethe'n mynd ymlaen gyhyd.
"Ry'n ni'n dal i ddyfalu beth maen nhw'n mynd i wneud a sut mae'n mynd i weithio i ni.
"Mae pobl wedi cael digon o glywed y gair 'Brexit' achos mae e wedi bod yn mynd ymlaen am gymaint o amser ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw un yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018