Ymgais i geisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR
- Cyhoeddwyd
Ni fase dros chwarter o boblogaeth Cymru yn ceisio adfywio rhywun sydd wedi cael ataliad ar y galon drwy ddefnyddio dull CPR, yn 么l ffigyrau gan British Heart Foundation Cymru (BHF Cymru).
Mae'r ffigyrau yn awgrymu ni fyddai 27% o oedolion sy'n byw yng Nghymru yn ceisio CPR pe bai nhw'n gweld rhywun yn dioddef ataliad ar y galon.
Fe wnaeth y BHF gomisiynu'r gwaith ymchwil gan Brifysgol Warwick a YouGov, gyda 4,000 o oedolyn ar draws y DU yn cael eu holi yngl欧n 芒'i gwybodaeth a'i hyder o berfformio CPR.
Mae'r BHF yn pwysleisio fod bywydau dal mewn perygl gan nad oes digon o bobl yn gwybod sut i berfformio CPR.
O ganlyniad, mae'r BHF wedi trefnu diwrnod 'Restart a Heart' i geisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR.
'Gwella ffigyrau'
Mae'r diwrnod yn cael ei drefnu'r flynyddol gan y BHF, Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru, Cyngor Adfywio'r DU, St John's Ambulance a'r Groes Goch Prydeinig.
Fe wnaeth 98% o'r bobl a holwyd yng Nghymru gadarnhau y buasai nhw'n galw am ambiwlans pe bai nhw'n gweld rhywun yn disgyn ac yn cael trafferth anadlu.
Dywedodd Pennaeth BHF Cymru, Adam Fletcher fod y siawns o rywun oroesi ataliad ar y galon ar 么l derbyn triniaeth CPR syth bin yn dyblu, i'w gymharu 芒 phan nad oes triniaeth CPR yn syth.
"Mae'r BHF yn ceisio gwella'r ffigyrau goroesi drwy geisio ffurfio cenedl o achubwyr bywyd drwy gynnig hyfforddiant CPR.
"Drwy godi ymwybyddiaeth drwy ddiwrnodau fel 'restart a Heart,' rydym yn gobeithio bydd mwy o bobl yn gweld fod CPR yn gallu bod y gwahaniaeth rhwng byw a marw, a bod gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim byd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2015