Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ioan Gruffudd yn delio 芒 gor-bryder
Yng Ngwobrau BAFTA Cymru yng Nghaerdydd nos Sul, siaradodd Ioan Gruffudd yn agored am ei deimladau o or-bryder.
Roedd yr actor o Gaerdydd wedi cael ei enwebu am wobr y prif actor am ei ran yn y gyfres Liar, ac er ei fod yn falch o fod yn 么l yng Nghymru, soniodd pa mor anodd yw hi iddo mewn achlysuron mawr o'r fath.
"Dwi'n diodde' o anxiety yn aml ac mae e'n mynd yn waeth wrth i fi fynd yn h欧n. Felly mae ymarferion 'ma gen i ar gyfer y math yma o achlysuron.
"Mae'n od - 'sa chi 'di ngweld i yn y car nawr, o'n i'n gwneud yr holl ymarferion anadlu 'ma, yna ti'n bwrw'r carped coch a ma'r holl bethe ti wedi eu dysgu yn dod yn 么l ac mae'r w锚n yn dod ar fy ngwyneb!"
Soniodd hefyd ei fod yn falch iawn o fod yn 么l yng Nghymru, yn enwedig mewn cyfnod pan mae'r diwydiant ffilmiau a theledu yn ffynnu yma.
"Mae'n anghredadwy. Mae ei weld i mi, y foment nes i adael a phenderfynu symud i LA, ddaeth yr holl waith lawr i Gaerdydd!
"Dwi wrth fy modd fod 'na shwt gyment o waith yma; mae'n wych i'r ddinas ac i Gymru ac i'r Gymraeg. Mae'r talent gyda ni tu flaen a tu 么l y camera a'r holl gyfleusterau.
"Ac mae gen i ffrindiau sydd yn cael y cyfle i ddod i weithio i Gymru, sydd erioed wedi bod yma o'r blaen. Mae Lin-Manuel Miranda wedi bod yma, mewn difri' calon! Roedd hi'n anhygoel gweld ei pan oedd e 'ma.
"Mae e sicr yn rhoi Cymru ar y map yn rhyngwladol. Mae'n bwysig iawn a dwi'n browd iawn."
Hefyd o ddiddordeb: