91热爆

Codi llen ar y tab诺

  • Cyhoeddwyd
teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nina Murphy a'i g诺r Nathan

Mae mam o orllewin Cymru am godi llais yngl欧n 芒 byw gyda gor-bryder. Mae Nina Murphy 32, o'r Ferwig ger Mwnt, wedi bod yn brwydro'r cyflwr ers i'w brawd ladd ei hun yn 2012.

Ar ddechrau wythnos o weithgareddau i dynnu sylw at iechyd meddwl, mae hi'n rhannu ei phrofiad yn gyhoeddus am y tro cyntaf gyda Cymru Fyw:

Roedd Nina yn gyrru un o'r plant adre' o'r ysgol un diwrnod, pan ddaeth ton o deimladau anesboniadwy drosti.

"Roedd e'n deimlad llethol, ac fe ddaeth e'n sydyn," meddai. "Roedd yn rhaid i mi dynnu drosodd yn syth, oherwydd roeddwn ni'n teimlo bod rhywbeth ofnadwy yn mynd i ddigwydd.

"Ges i gymaint o banig, do'n i ddim yn gallu anadlu, ac roedd fy meddwl ar ras. Yn poeni byddai rhywbeth yn digwydd i fi, ac na fydda i o gwmpas i weld fy mhlant yn tyfu. Ges i gymaint o ofn!"

Roedd hi eisoes wedi dioddef o rai blynyddoedd o iselder, ond ddim gor-bryder, cyn colli ei brawd.

"Mae gor-bryder fel arfer yn dod law yn llaw ag iselder, ond dim ond yn y ddwy flynedd ddiwetha' dwi wedi brwydro'n ddyddiol er mwyn ceisio ymdopi," meddai Nina, sy'n fam i Louie, 5 oed a Sienna, 2 oed.

Sefyll arholiad 'bob dydd'

Mae llymder y gor-bryder yn amrywio o ddydd i ddydd, ond mae hi'n teimlo cyfuniad o anesmwythder a gofid, ac mae'n gallu mynd i banig gwyllt.

Mae hi ar feddyginiaeth sy'n helpu gyda'r teimladau o banig, meddai, sy'n helpu pan mae'n cael episod wael o beidio gallu anadlu oherwydd y panig.

"Wnes i ddim sylwi ar yr arwyddion i ddechrau," meddai. "Do'n i ddim yn deall beth oedd y cyflwr, ac i ryw raddau, dwi dal ddim yn gwybod. Sa i'n credu fy mod i'n ymdopi, neu felly mae'n ymddangos ta beth.

"Dwi'n gallu dihuno yn y bore a theimlo nad ydw i wedi cysgu'r un winc. Fy strategaeth orau i ar hyn o bryd o ran ymdopi ydy trio cael amser i fy hun, cau fy hun i ffwrdd, er mwyn cael amser i feddwl am beth yn gwmws sy'n fy mhoeni.

"Dwi'n gweld pethau mewn ffordd dywyll iawn, dwi'n poeni lot fawr, mae fy nghalon ar ras drwy'r amser, a dwi'n gallu bod yn ddiamynedd.

"Y teimlad yna pan mae pobl yn ei gael wrth fynd am gyfweliad swydd neu arholiad - wel dwi'n cael hynny'n ddyddiol.

"Rhyw fath o nerfusrwydd llwyr, a dwi methu'n l芒n ag ymlacio, ac mae hynny'n arwain at nosweithiau di-gwsg dirifedi."

Gyda'i meddwl ar chw芒l ar brydiau, mae'n anodd byw o ddydd i ddydd, meddai.

"Mae yna bob math o feddyliau yn rasio. Weithiau dwi ddim yn teimlo'n ddigon da, a dwi'n poeni dipyn am beth mae eraill yn meddwl ohona i," meddai.

"Mae yna wastad ryw elfen o 'beth os', a phoeni bod rhywbeth gwael yn mynd i ddigwydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nina a'i theulu

Cuddio tu 么l i fwgwd

"Fyddai'r person cyffredin ddim yn gwybod fy mod i'n dioddef o gor-bryder. Am nad ydyn nhw'n gallu ei weld, dyw e ddim yna!" meddai Nina.

"Dwi'n rhoi mwgwd ymlaen pan dwi'n casglu'r plant o'r ysgol, neu mewn sefyllfa gymdeithasol, er mwyn cuddio'r union feddyliau sydd gen i."

Mae hi wedi dysgu i wisgo gw锚n, a chuddio'r teimladau, er mwyn osgoi beirniadaeth gan bobl.

"Mae gen i ofn methu fel gwraig, mam, ffrind, a chyd-weithiwr. Fi ydy 'ngelyn penna' fy hunan, ac yn ysu am berffeithrwydd ym mhob agwedd o fy mywyd, hyd yn oed os nad oes modd cyrraedd y nod hwnnw."

Ers Ionawr eleni, mae hi wedi cael cwnsela ar gyfer gor-bryder, ac maen nhw'n gweithio ar therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).

"Mae'n fy helpu'n araf bach, ond mae gen i lawer o ffordd i fynd," meddai Nina.

"Ar 么l brwydro gyhyd gyda fy meddyliau, mae fy hunan hyder yn rhacs, a fy hunan gred hefyd, felly mae'n mynd i fod yn broses hirfaith cyn gwella.

"Mae'n anodd iawn i siarad gyda rhywun am fy mhroblemau. Mae gen i gwpl o ffrindiau agos er mwyn troi atyn nhw, ond dwi'n trio osgoi rhag iddyn nhw feddwl fy mod i'n OTT.

"Dwi'n osgoi trafod gyda fy ng诺r, rhag ofn wneith e ddim deall, a pham dylai e? Dwi fy hun ddim yn deall gor-bryder weithiau!"

Angen codi llais

Gyda dau o blant bach, mae Nina wrth reswm yn poeni am oblygiadau ei salwch arnyn nhw.

"Dwi ddim eisiau iddyn nhw edrych yn 么l a chofio bod mam yn drist a dan straen. Ond dwi'n lwcus iawn o gael g诺r cefnogol iawn sy'n helpu gymaint pan mae e adre. Yn enwedig pan dwi'n cael diwrnod gwael."

Mae'n bryd i fwy o bobl godi llais am gor-bryder, meddai, er mwyn cael dysgu mwy am y cyflwr ac addysgu'r rheini sy'n gorfod byw gyda phartner sy'n dioddef.

"Does dim digon yn cael ei wneud er mwyn codi ymwybyddiaeth unrhyw salwch meddwl, heb s么n am gor-bryder.

"Mae'n bwnc tab诺, ac mae pobl yn osgoi ei drafod am ei fod mor anodd i ddod i delerau a deall y cyflwr. Ac mae gan bawb ei frwydr ei hun, wrth gwrs."

Mae cyfryngau cymdeithasol yn opsiwn, meddai, ac mae hi'n defnyddio gwefannau er mwyn dysgu mwy am y cyflwr.

"Mae cael trafodaeth ar y we yn agored iawn ac yn siwtio rhai, ac mae'n dda gallu rhannu cyngor a gofidiau.

"Ond dwi'n bersonol ddim yn gofyn am gyngor, dim ond hel gwybodaeth. Cyn hyn, dwi wedi cael pobl yn fy marnu am rannu linc i godi ymwybyddiaeth, a thrio rhoi cyngor i rywun oedd yn goddef, a chael un yn dweud, 'just get on with it!'.

"Dylai pawb drafod iechyd meddwl yn agored, achos dyma'r unig ffordd i bobl sy'n byw gyda rhyw gyflwr weld nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Wrth siarad gyda'n gilydd, gallwn godi gwell ymwybyddiaeth," meddai Nina.

Y gobaith iddi hi'n bersonol ydy ceisio dysgu sut i ymdopi'n well gyda'r gor-bryder.

"Dwi wedi cael llond bol o deimlo fel ydw i, mae fe pe bai fy mod i'n brwydro gyda fy hun yn ddyddiol.

"I'r rheiny sydd yn yr un cwch 芒 fi, ceisiwch godi llais, a chael help. Byddwch yn ddewr.

"Dy'ch chi ddim yn crazy nac yn stupid. Mae'r hyn 'dych chi'n ei deimlo yn bodoli go iawn, ac mae modd gwella, neu o leiaf dysgu ymdopi i fyw gydag e."

Stori a lluniau: Llinos Dafydd