Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyswllt fideo i gefnogi addysg mewn ysgolion gwledig?
Mae'r defnydd o gysylltiad fideo rhwng ysgolion wedi cael ei lansio fel rhan o gynllun i gefnogi addysg mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.
Cafodd y syniad ei fabwysiadu gyntaf mewn rhannau o'r Alban.
Nod prosiect E-sgol yw cysylltu disgyblion ac ysgolion mewn mannau anghysbell fel bod ganddyn nhw ddewis ehangach o bynciau.
Mae cynllun gweithredu addysg cefn gwlad Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y gallai technoleg gynnig atebion i rai problemau mewn ysgolion gwledig.
Mae'r prosiect yn seiliedig ar gynllun a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth yr Alban yn yr Ynysoedd Heledd Allanol (Outer Hebrides).
Y cyntaf i roi cynnig arni yng Nghymru oedd disgyblion Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan a fu'n cysylltu gyda phlant o Sgoil Lionacleit yn Benbecula ar gyswllt fideo.
Mae'r gwersi ar gyfer disgyblion chweched dosbarth gan athrawon ar safleoedd eraill er mwyn ehangu'r dewis o bynciau sydd ar gael.
Dywedodd athro mathemateg Llanbed, Dylan Jones: "Mae'n wahanol iawn yn sicr... y mwyaf y byddwn yn ei ddefnyddio yna fe ddown ni i arfer gydag e.
"Mae'n rhoi cyfle i'r disgyblion i wneud pynciau na fydden nhw'n gallu gwneud fel arall efallai. Dyw ysgolion - efallai oherwydd arian - yn methu rhedeg rhai cyrsiau."
Dywedodd Kirsty Williams y byddai'n sicrhau fod gan blant fynediad at "y profiad dysgu gorau" hyd yn oed yn ardaloedd mwyaf gwledig y DU.
"Os fedrwn ni sicrhau bod disgyblion ac ysgolion yng nghefn gwlad Cymru yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i lwyddo, yna fe allan ni sicrhau bod ein cymunedau ac econom茂au gwledig yn mynd o nerth i nerth," meddai.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Addysg Yr Alban, John Sweeney ei fod yn falch dros ben o weld y cynllun arloesol E-Sgoil am addysgu digidol yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun gweithredu hefyd yn cynnwys:
- Grantiau i ysgolion bach a gwledig er mwyn annog dyfeisgarwch a chodi safonau;
- Cryfhau'r cod ad-drefnu ysgolion mewn perthynas 芒 rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig drwy newid y canllawiau i awdurdodau lleol fydd yn dod i rym ym mis Tachwedd;
- Cyllid ychwanegol i wella cysylltedd mewn ysgolion cefn gwlad.
Wrth s么n am y posibilrwydd o gau ysgolion, ychwanegodd Ms Williams: "Ry'n ni'n gyrru neges i awdurdodau lleol fod rhaid iddyn nhw ymchwilio'n drylwyr... ymgynghori gyda chymunedau ac edrych ar bob cyfle sydd ar gael i gadw ysgol ar agor.
"Ni ddylai cau ysgol fod y dewis cyntaf, ond yn hytrach y dewis olaf un."