91热爆

Cyflwyno deiseb i'r Senedd yn erbyn cau ysgolion gwledig

  • Cyhoeddwyd
Cyflwyno'r ddeiseb
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd dros 5000 wedi arwyddo'r ddeiseb

Cafodd deiseb ei chyflwyno i'r Senedd gan ymgyrchwyr sydd yn gwrthwynebu cau ysgolion gwledig Cymru ar faes y Brifwyl ddydd Sadwrn.

Daw'r ddeiseb, a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith (CyI), wedi i Gyngor Ynys M么n benderfynu cau Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

Yn 2017, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams god newydd sydd o blaid cadw ysgolion bychain ar agor - ond yn 么l datganiad CyI mae rhieni Ysgol Bodffordd yn cwyno fod y cyngor yn "ceisio cau eu hysgol yn gwbl groes i'r cod newydd".

Roedd dros 5,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb sy'n galw ar y llywodraeth "i gymryd camau i sicrhau fod awdurdodau lleol yn gweithredu'r cod newydd".

Wrth ymateb dywedodd un o gynghorwyr Ynys M么n Nicola Roberts: "Fel cynghorydd lleol teimlaf fod rhaid pwysleisio bod y strategaeth moderneiddio addysg mewn lle i roi'r addysg ac adnoddau gorau i bob plentyn o bob ardal.

"Dwi'n llawn ymwybodol o'r cod ac yn hyderus bod ystyriaeth deg a manwl wedi ei rhoi iddo wrth drafod moderneiddio addysg yma ym M么n."

'Cyflafan' cymunedau gwledig

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i AC Ynys M么n Rhun ap Iorwerth gan Llinos Thomas Roberts, ysgrifennydd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bodffordd.

Mae'r ddeiseb yn sicrhau dadl ar y mater yn siambr y Senedd, a bydd yn ofynnol i'r Gweinidog ymateb.

Dywedodd Ffred Ffransis, a siaradodd yn ystod y digwyddiad: "Os gall y cyngor lleol gau ysgol boblogaidd, orlawn fel Bodffordd sydd yn rhif un ar restr y llywodraeth o ysgolion gwledig Cymru, yna does dim un ysgol wledig yn ddiogel a gall fod cyflafan yn ein cymunedau gwledig Cymraeg".

Ychwanegodd: "Rydyn ni fel Cymdeithas wedi canmol y Gweinidog Addysg am roi gobaith newydd i ysgolion gwledig, ond mae penderfyniad Cyngor M么n i anwybyddu'r c么d yn llwyr yn dwyn anfri ar y ddemocratiaeth Gymreig ifanc a gynrychiolir gan y senedd hon".

'Effaith tu hwnt i fyd addysg'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar gryfhau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion mewn perthynas 芒'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

"Bydd y cod newydd yn cael ei gyflwyno ger bron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Medi, gyda'r disgwyl y bydd yn dod i rym ddiwedd y flwyddyn.

"Yn y cyfamser, rhaid i awdurdodau lleol barhau i gydymffurfio 芒'r Cod presennol, sy'n nodi bod rhaid i unrhyw achos dros gau ysgol fod yn un cadarn, er budd gorau'r ddarpariaeth addysgol a chydnabod y gallai cau ysgolion mewn ardaloedd gwledig gael effaith y tu hwnt i fyd addysg."