Eluned Morgan i lansio'i hymgyrch i arwain Llafur Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Eluned Morgan yn lansio ei hymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru yn nes ymlaen ddydd Iau.
Dywedodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru fod angen "newid deinamig" y blaid Lafur a'r Cynulliad.
Ychwanegodd ei bod eisiau mynd "tu hwnt i fybl Bae Caerdydd", gan ddisgrifio'i hun fel "ymgeisydd sosialaidd ar gyfer yr oes ddigidol".
Fe wnaeth Vaughan Gething a Mark Drakeford lansio eu hymgyrchoedd hwythau yn gynharach yn yr wythnos.
'Tu hwnt i'r bybl'
Llwyddodd Ms Morgan i gael digon o enwebiadau i gymryd rhan yn yr ornest wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ei chefnogi.
Dywedodd Mr Jones ei fod yn awyddus i weld enw dynes ar y papur pleidleisio fel rhan o'r broses i ddewis ei olynydd.
Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Ms Morgan bod angen "newid deinamig" yn wyneb "heriau lu" fel Brexit, poblogaeth yn heneiddio a chynaladwyedd y wlad.
Dywedodd y byddai bod yn fenyw yn "gynnig gwahanol", ond bod ganddi fwy i'w gynnig "yn hytrach na jyst bod yn fenyw".
"Tynnu Cymru mas o dlodi - dyna fydde fy ngobaith cynta' i, a'r ffaith yw bod gen i lot o brofiad nid jyst yn Senedd Ewrop, nid jyst y cysylltiadau sydd gen i o D欧'r Arglwyddi... Ond hefyd ym myd diwydiant, mae gen i ddealltwriaeth o sut mae newid hyn."
Datganiad Saesneg yn gamgymeriad?
Er bod Ms Morgan yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, gwadodd ei fod yn gamgymeriad i yrru datganiad i'r wasg yngl欧n 芒'i harweinyddiaeth yn uniaith Saesneg.
Dywedodd ei bod wedi gwneud "lot o waith" i sicrhau bod ei gwefan yn Gymraeg, ac wedi siarad 芒 nifer o bobl dros y wlad yn Gymraeg fel rhan o'r ymgyrch.
"Does neb arall yn y blaid Lafur wedi rhoi cymaint o frwdfrydedd, wedi rhoi cymaint o bwyslais ar yr iaith Gymraeg dros y blynyddoedd na fi."
Yn trafod Brexit, dywedodd Ms Morgan ei bod yn gobeithio am refferendwm arall gan fod pobl yn "sylweddoli'r effaith andwyol dros ben fydd ar y wlad" heb gytundeb Brexit.
Dywedodd Ms Morgan y byddai ei hymgyrch yn canolbwyntio'n bennaf ar dyfu'r economi er mwyn cynhyrchu cyfoeth i gynnal gwasanaethau cyhoeddus.
"Dwi'n fwriadol wedi mynd y tu hwnt i fybl Bae Caerdydd ac i seddi ble mae'n rhaid i Lafur ennill os ydyn ni eisiau mwyafrif Llafur yn y Cynulliad."
"Mae'n rhaid i Lafur edrych yn wahanol, swnio'n wahanol, a bod yn wahanol os yw'r blaid am gadw grym," meddai ei hymgyrch.
Ddydd Llun fe wnaeth Vaughan Gething gyhoeddi sawl polisi - gan gynnwys Gwasanaeth Gofal Gwladol a phrydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau - yn ei lansiad yn Nantgarw.
Wrth lansio'i ymgyrch yntau dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "sosialydd o'r 21ain Ganrif", gan bwysleisio'i gysylltiadau gyda'r diweddar gyn-brif weinidog, Rhodri Morgan, ac arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn.
Bwriad Mr Jones yw ymddiswyddo ar 11 Rhagfyr, gyda'i olynydd yn cymryd yr awenau'r diwrnod canlynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd26 Medi 2018