Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddlu'n ymddiheuro dros ffigyrau trosedd 'anghywir'
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymddiheuro am gyhoeddi ystadegau "anghywir" oedd yn awgrymu bod nifer uwch o lawer o bobl wedi eu lladd yn y rhanbarth nag oedd mewn gwirionedd.
Yn 么l Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Arfon Jones roedd y llu wedi cofnodi 147 achos o homiseid i'r Swyddfa Gartref yn y pum mlynedd hyd at fis Mawrth 2018, ond 33 oedd y ffigwr cywir.
Roedd y Swyddfa Gartref yn casglu'r wybodaeth er mwyn eu cyhoeddi ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dywedodd Mr Jones wrth gyfarfod yng Nghonwy bod ei swyddfa wedi codi cwestiynau ynghylch yr ystadegau, gan eu bod yn debycach i "ffigyrau dinasoedd mawr", a bod y camgymeriad wedi ei gywiro erbyn hyn.
Yng nghyd-destun yr ystadegau, mae'r term homiseid yn cynnwys achosion o lofruddiaeth, dynladdiad, dynladdiad corfforaethol a babanladdiad, ond nid marwolaethau o ganlyniad ymosodiad terfysgol.
'Ailgyfrif hen droseddau'
Mewn adroddiad i aelodau Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, dywedodd Mr Jonesbod y camgymeriad wedi digwydd "yn rhannol" oherwydd cydweithio gyda lluoedd eraill o ran rheoli systemau cofnodi gwybodaeth.
"Oherwydd newid yn fformat cyfeirnodau trosedd, mae cofnodion hanesyddol o'r hen system reoli [wedi eu cynnwys yn y wybodaeth ar gyfer] y Swyddfa Gartref, sy'n gweud iddi ymddangos fel bod yna droseddau ychwanegol," dywedodd.
"Mae hynny, i bob pwrpas, yn ailgyfrif [troseddau] sydd eisoes wedi eu cofnodi."
Yn achos tri mis olaf 2017, roedd un achos o homiseid mewn gwirionedd, ond fe gafodd 22 eu cofnodi ar gam.
Roedd y camgymeriad, meddai Mr Jones, yn "esiampl dda iawn o Heddlu Gogledd Cymru yn lawrlwytho gwybodaeth a'i fwydo i'r ONS trwy'r Swyddfa Gartref heb ei wirio".
"Does bosib i 22 achos o homiseid mewn blwyddyn fod yn gywir. Mae rheiny'n ffigyrau dinasoedd mawr.
"Pan welson ni hynny, fe wnaethon ni ofyn cwestiynau, ac yn wir, mae'r wybodaeth yn anghywir.
"Fe gododd hwn yn gyfan gwbl oherwydd craffu ar ran fy swyddfa i. Yr hyn rwy'n gofyn nesaf yw: os mae hwn yn anghywir o ran homiseid, faint yn fwy sy'n anghywir yn achos troseddau eraill?"
'Ail-archwilio prosesau mewnol'
Dywedodd yr Uwcharolygydd Sharon McCairn mewn datganiad ddydd Mawrth: "Rydym yn ymddiheuro am y data anghywir a gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin eleni.
"Roedd ein ffigyrau ar gyfer y flwyddyn hyd at Fawrth 2018, oherwydd diofalwch, yn cynnwys troseddau hanesyddol, oedd heb eu cynnwys o'r blaen... digwyddodd hynny tra roeddem yn uwchraddio ein systemau rheoli cofnodion.
"Cyn gynted ag y daeth y camgymeriad i'r amlwg ym Mai 2018, cafodd y data cywir ei roi i'r Swyddfa Gartref.
"Fodd bynnag roedd hynny'n rhy hwyr ar gyfer cyhoeddiad chwarterol [ONS] ar gyfer y 12 mis tan Fawrth 2018."
Ychwanegodd bod y llu bellach wedi rhoi'r data mwyaf diweddar i'r Swyddfa Gartref - a fydd yn cael eu cynnwys fis nesaf fel rhan o ystadegau'r ONS ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mehefin 2018.
"Yn y cyfamser rydym wedi ail-archwilio ein prosesau mewnol i sicrhau na allai'r camgymeriad yma ddigwydd eto."