Camdriniaeth ddomestig y 'drosedd fwyaf' yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Camdriniaeth ddomestig yw'r "drosedd fwyaf" sy'n wynebu Heddlu Gogledd Cymru, yn 么l Comisiynydd Heddlu a Throsedd y llu.
Mae adroddiad i'r panel troseddu rhanbarthol yn dangos bod achosion sy'n ymwneud 芒 chamdriniaeth ddomestig wedi cynyddu 33% y flwyddyn yma o'i gymharu 芒'r llynedd.
2,008 oedd y ffigwr yr un adeg y llynedd ond 2,671 yw'r ffigwr yn 2017 - cynnydd o 663.
Mae achosion o gamdriniaeth ddomestig heb unrhyw anafiadau na thrais wedi cynyddu 47% eleni hyd yma o 887 yn 2016 i 1,303.
Dywedodd y Comisiynydd Arfon Jones fod taclo camdriniaeth ddomestig yn un o'i flaenoriaethau dros y bum mlynedd nesaf.
"Mae'n rhaid i ni ddeall yn well os yw'r cynnydd yn y nifer sydd yn adrodd y gamdriniaeth am eu bod yn teimlo yn fwy hyderus i fynd at yr awdurdodau, newidiadau yn y ffordd mae troseddau yn cael eu cofnodi, neu am resymau eraill," meddai.
'Risg mwyaf'
Mae arbenigwyr camdriniaeth ddomestig wedi dweud bod cynnydd mewn achosion ble nad oes niwed corfforol yn adlewyrchu'r newid diweddar yn y gyfraith.
Erbyn hyn mae'r gyfraith yn cydnabod bod ymddygiad o reoli person trwy orfodaeth yn enghraifft o gamdriniaeth oherwydd y niwed seicolegol ac emosiynol mae'n gallu achosi i'r unigolyn.
Ar draws Cymru mae ffigyrau gafodd eu cyhoeddi eleni yn dangos cynnydd o 23% mewn trais domestig sydd wedi ei adrodd i'r awdurdodau dros gyfnod o dair blynedd.
Ychwanegodd y comisiynydd mai camdriniaeth ddomestig yw'r "risg mwyaf sy'n wynebu Heddlu Gogledd Cymru".
Drwy flaenoriaethu'r broblem, mae Mr Jones yn gobeithio:
Cynyddu hyder y dioddefwr i adrodd achosion i'r heddlu;
Sicrhau fod digon o swyddogion arbenigol ar gael ar gyfer y galw;
Gwella profiad dioddefwyr yn y system gyfiawnder.
Mae Mr Jones hefyd wedi dweud ei fod yn pryderu bod nifer y bobl sy'n cael eu cyhuddo o gamdriniaeth ddomestig wedi gostwng er bod cynnydd yn nifer y troseddau sy'n cael eu hadrodd i'r heddlu.
Yn sgil hyn mae wedi gofyn i fwrdd strategol adolygu'r ffigyrau a chydnabod nifer y troseddau, y math o droseddau, oedran y plant, ac i edrych ar waith Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd rheolwr materion cyhoeddus yr elusen Cymorth i Ferched Cymru, Gwendolyn Sterk nad yw'r cynnydd mewn troseddau yn rhywbeth negyddol am fod y ffigyrau yn dangos bod pobl yn fwy parod i fynd at yr awdurdodau.
"Mae gwell ddealltwriaeth yn digwydd yn araf bach yngl欧n 芒 beth yw camdriniaeth ddomestig," meddai.
Dywedodd ei bod yn croesawu'r penderfyniad i flaenoriaethu'r broblem ar hyd y gogledd.
"Rydym wedi cwrdd 芒'r comisiynydd ac rydym yn hyderus ei fod wedi ymrwymo i daclo'r broblem."