Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Crwner yn gwrthod gohirio cwest achos Carl Sargeant
Mae crwner wedi gwrthod gohirio'r cwest i farwolaeth y cyn-aelod o Lywodraeth Cymru, Carl Sargeant.
Mewn gwrandawiad rhagarweiniol yn Rhuthun, dywedodd y crwner John Gittins nad ydy'r achos yn un y "dylid ei ohirio y tu hwnt i'r ymchwiliad annibynnol" i amgylchiadau diswyddo'r cyn-Ysgrifennydd Cymunedau.
Roedd bargyfreithiwr teulu Mr Sargeant wedi dadlau y byddai'n "gynamserol" i gynnal cwest cyn bod tystiolaeth wedi ei chasglu ar gyfer ymchwiliad Llywodraeth Cymru i'r ffordd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo o gabinet y weinyddiaeth Lafur.
Wrth bennu 26 Tachwedd fel dyddiad ar gyfer dechrau'r cwest, dywedodd y crwner y bydd modd i deulu Mr Sargeant gymryd rhan "lawn" yn y broses.
Fe gyhoeddodd Paul Bowen QC - sy'n arwain yr ymchwiliad annibynnol - ddechrau Medi ei fod yn gohirio'r broses wedi her gyfreithiol gan deulu Mr Sargeant.
Dywedodd Mr Gittins: "Rwy'n credu bod fy ymchwiliad, sydd wedi mynd rhagddo yn helaeth, yn ddigonol i gynnal ymchwiliad priodol yn unol 芒 fy nghyfrifoldeb statudol."
Ychwanegodd nad oes ganddo "hawl i wneud sylwadau" y tu hwnt i gadarnhau o fewn y gyfraith pwy fu farw, ymhle, pryd a sut.
Dadansoddiad ff么n
Dywedodd y bargyfreithiwr Leslie Thomas QC ar ran y teulu fod ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Lafur ar y pryd, Ian McNicol - Arglwydd McNicol erbyn hyn - wedi trefnu ar ddiwrnod y farwolaeth i swyddog o'r enw Andy Smith ymweld 芒 Mr Sargeant i roi cefnogaeth iddo.
Cafodd yr ymweliad hwnnw ei atal yr un diwrnod.
Awgrymodd Mr Thomas wrth y crwner y dylid cael datganiadau llawn gan Arglwydd McNicol a Mr Smith.
Fe ddatgelodd Mr Gittins fod dadansoddiad wedi ei wneud o ff么n personol Mr Sargeant ar ddiwrnod ei farwolaeth yn unig, gan ychwanegu nad yw'n "bwriadu ehangu dadansoddiad y ff么n y tu hwnt i'r hyn sydd eisoes wedi digwydd".
Cafwyd hyd i Mr Sargeant yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah fis Tachwedd y llynedd, ddyddiau wedi ei ddiswyddiad. Roedd yn wynebu ymchwiliad gan y Blaid Lafur i honiadau o "gyffwrdd anaddas ac ymddwyn yn amhriodol tuag at ferched" - cyhuddiadau yr oedd yn gwadu.
Dywedodd y crwner na fyddai honiadau bod Mr Sargeant wedi cael ei fwlio o fewn terfynau ei ymchwiliad.
Ond fe fydd, yn rhinwedd ei ddyletswydd o ran atal marwolathau yn y dyfodol, yn ymchwilio a oedd ystyriaeth i les Mr Sargeant wedi'r diswyddiad, yn sgil y sylw cyhoeddus i wleidyddion mor amlwg.
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn wynebu cael ei holi yn gyhoeddus yn y cwest llawn yngl欧n 芒'r ddatganiad nad oedd yn credu fod Mr Sargeant yn dioddef unrhyw salwch iechyd meddwl neu'n fregus mewn rhyw ffordd.
Mewn gwrandawiad rhagarweiniol blaenorol, dywedodd cyfreithiwr ar ran teulu Mr Sargeant ei fod wedi dioddef iselder am ddwy flynedd ac yn cymryd tabledi at y cyflwr. Doedd dim awgrym ei fod wedi cymry gorddos.
Tystiolaeth mewn person
Dywedodd Mr Gittins ei fod hefyd eisiau clywed gan aelod arall o Lywodraeth Cymru sy'n cynrychioli etholaeth yn y gogledd ddwyrain, Lesley Griffiths am "bwysau" ar Mr Sargeant yn y Cynulliad.
Mae disgwyl i 13 o bobl roi tystiolaeth mewn person, a rhyw 12 o ddatganiadau.
Fe wnaeth bargyfreithiwr Mr Jones wrthwynebu galw'r cyn AC Llafur a'r cyn weinidog, Leighton Andrews i roi tystiolaeth, gan ddweud y byddai'r dystiolaeth yna'n ymwneud 芒 materion n么l yn 2013.
Dywedodd Cathryn McGahey QC: "Cafodd honiadau Mr Andrews eu hymchwilio a ni ddaeth unrhyw dystiolaeth o fwlio."
Ond fe ddywedodd Mr Gittins y byddai'n cael ei alw i roi tystiolaeth, ac y byddai'r dystiolaeth yn rhan o un o'r cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch yr hyn roedd yn gwybod am gyflwr meddyliol Mr Sargeant.