Corbyn: Angen amrywiaeth yn ras arweinydd Llafur Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Jeremy Corbyn wedi galw am yr "amrywiaeth mwyaf eang posib" yn y ras i arwain Llafur Cymru.
Daeth sylwadau arweinydd y blaid Lafur wrth ymateb i bryderon nad oes dynes yn yr ornest i olynu Carwyn Jones ar hyn o bryd.
Yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford a'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ydy'r unig ddau sydd wedi sicrhau digon o enwebiadau hyd yma.
Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan angen cefnogaeth un Aelod Cynulliad arall cyn bod modd iddi gael ei henw ar y papur pleidleisio.
Mae ACau angen cefnogaeth pum aelod i fod yn ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur Cymru.
'Uno'r blaid'
Dywedodd Mr Corbyn: "Yn amlwg mi fyddwn ni eisiau gweld yr amrywiaeth mwyaf eang posib o ran y dewis sydd yn cael ei roi ger bron aelodau'r blaid Lafur yng Nghymru.
"Ond ar ddiwedd y broses, fe fyddwn yn gallu ethol arweinydd newydd ac fe fydd y blaid yn dod at ei gilydd y tu 么l i'r arweinydd er mwyn darparu ar gyfer pobl Cymru."
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud na fydd yn rhoi ei gefnogaeth i unrhyw ymgeisydd.
Mae sawl gwleidydd o'r blaid wedi dweud y dylai fod dynes ar y papur pleidleisio.
Mr Drakeford ydy'r ceffyl blaen yn y ras ar hyn o bryd ar 葟l sicrhau cefnogaeth y mwyafrif o Aelodau Cynulliad Llafur.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018