Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bachgen ysgol yn diolch am arian triniaeth canser
Mae bachgen ysgol wedi diolch am yr ymdrechion codi arian wnaeth sicrhau ei fod yn cael triniaeth hanfodol i'w ganser yn America.
Rai dyddiau'n unig cyn y Nadolig llynedd, cafodd Owen Thomas o ardal Tredelerch yng Nghaerdydd wybod fod canser yn ei geg.
Daeth i'r amlwg y byddai angen triniaeth arbenigol proton beam arno, a bod y driniaeth honno ar gael yn America.
Aeth ffrindiau ati i godi arian er mwyn sicrhau y gallai Owen deithio yno gyda'i deulu i dderbyn y driniaeth.
'Rhywbeth yn anghywir'
Yn siarad o'i gartref mewn cyfweliad gyda 91热爆 Cymru Fyw, mae Owen yn cofio'r cyfnod pan aeth yn s芒l: "Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth yn anghywir.
"Roedd Mam a fi wedi bod yn siarad am wythnosau bod rhywbeth yn wrong ar y fy ngheg.
"Nes i mynd mewn i gael sgan MRI ar y dydd Mercher, a wedyn y diwrnod wedyn, ges i sgan CT i' nhw siecio popeth.
"Yn syth y diwrnod nesa', roedden nhw wedi galw i ddweud bod gennyn nhw newyddion, ac i fod yn onest, roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth yn anghywir, ond o'n i ddim yn disgwyl iddo fe fod mor wael."
Yn hytrach na dathlu'r Nadolig gyda'i rieni, ei dri brawd ac un chwaer, roedd Owen yn yr ysbyty'n cael llawdriniaeth.
Wedi wythnosau o driniaeth ddwys, cododd y posibilrwydd o gael triniaeth pelydryn proton, fyddai'n golygu teithio i America.
Ond byddai hon yn driniaeth gostus, ac roedd yn bwysig i Owen fod ei deulu'n agos ato.
拢15,000 gan elusen Jac Bach
Aeth ffrindiau'r teulu ati i sefydlu safle i godi arian, a chyn hir, roedd digwyddiadau'n cael eu cynnal gan ei ysgol, Ysgol Gymraeg Bro Edern, ac ysgolion eraill.
Cafodd yr ymdrechion hwb arbennig, pan roddodd elusen Jac Bach gyfraniad o 拢15,000 i'r gronfa.
Gydag Owen yng nghanol ei driniaeth, mae'n dweud nad oedd yn llwyr ymwybodol o'r ymdrechion oedd yn mynd ymlaen ar y pryd.
"Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor fawr oedd e," meddai.
"Ro'n i'n cael snippets bach o'r teulu yn dweud sut oedd e'n mynd a beth oedd yn digwydd, ond ni'n ddiolchgar iawn am pawb wnaeth ddod i unrhyw events a wedi codi arian i helpu fi a fy nheulu i hedfan i America.
"Mae'n synnu fi fwy nawr, achos ar yr amser, ro'n i'n eitha' s芒l, felly o'n i'n methu cael teimlad o beth oedd yn digwydd, a scale o pa mor fawr oedd y fundraising."
Pan oedd allan yn Florida, roedd Owen yn cael triniaeth proton yn ddyddiol, ac yn gorfod gwisgo mwgwd arbennig er mwyn sicrhau bod y pelydrau'n targedu'r canser heb achosi niwed i unrhyw ran arall o'i gorff.
Yn gofnod o'r cyfnod, mae Owen wedi cael dod 芒'r mwgwd yn 么l adref gydag e.
Diolch i uned 'unigryw'
Roedd y driniaeth proton yn llwyddiannus wrth drin y canser, a bydd Owen nawr yn teithio'n wythnosol i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i gael triniaeth cemotherapi am flwyddyn arall.
Elusen Teenage Cancer Trust sy'n gyfrifol am yr uned lle mae'n cael y driniaeth, sy'n galluogi i blant a phobl ifanc rhwng 13 a 24 oed sydd 芒 chanser i fod yng nghwmni cyfoedion.
"Rwy'n credu ei fod yn bwysig," medd Owen, "oherwydd gwnaeth yr uned roi llawer o gymorth i fi yn bersonol.
"Gyda unedau eraill fel unedau plant a phobl eraill, mae'n eitha' isolating a ti'n teimlo'n eitha' unig."
Yn 么l y cofrestrydd hemotoleg, Heledd Roberts, mae'r uned yn "hollol unigryw".
"Mae'n cynnig gofal gydrannol i bobl ifanc sy'n dioddef efo canser," meddai, "yn canolbwyntio ar anghenion mwy na jyst trin y canser, eu hanghenion personol nhw, ac hefyd, gadael iddyn nhw gadw'u hunaniaeth a bod yn bobl ifanc normal i ryw raddau.
"'Da ni gyd yn gwybod pa mor bwysig yw cefnogaeth teuluol yn ystod ein harddegau pan 'da ni yn bobl ifanc.
"Mae'r newidiadau corfforol ac emosiynol yn amlwg iawn yn ystod yr amser yma. Pan ti'n mynd drwy driniaeth, mae'r gefnogaeth yna'n fwy angenrheidiol fyth."
'Neis bod yn 么l'
Mae Owen a'i deulu wedi wynebu sawl her dros y naw mis diwethaf, ond un digwyddiad hapus oedd croesawu aelod newydd i'r teulu.
Ychydig wedi i'r teulu ddychwelyd gartref o America, cafodd Jemma, mam Owen, ferch fach: "O'dd hwnna'n syrpreis, achos roedd Mam yn mynd i ddweud wrthon ni jyst cyn i fi gael fy diagnosio, ond roedd rhaid iddi stopio, oherwydd popeth, ond oedd hi wedi dweud wrthon ni ar 么l fy cemotherapi cyntaf."
Bydd triniaeth Owen yn parhau am flwyddyn arall, ond mae'n 么l yn yr ysgol yn dechrau astudio at Safon Uwch, ac yn falch o fod yn 么l gyda'i ffrindiau.
"Fi heb gweld nhw am misoedd oherwydd y triniaeth, ond mae'n neis i fi fod yn 么l yn yr ysgol a gallu siarad 芒 nhw."