Cronfa ganser yn cyrraedd y nod wedi 'rhodd arbennig'
- Cyhoeddwyd
Mae cronfa gafodd ei sefydlu gan deulu a ffrindiau bachgen gafodd ddiagnosis o ganser prin cyn y 'Dolig wedi cyrraedd y nod, gwta wythnos ers ei sefydlu.
Cafodd Owen Thomas, sydd yn mynd i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern ac yn cael ei ddisgrifio fel "g诺r bonheddig", y newyddion bod ganddo'r salwch yn ei geg a chefn ei wddw ddau ddiwrnod cyn y Nadolig.
Ar 么l cael cemotherapi cafodd wybod ei fod angen triniaeth proton fydd yn targedu'r celloedd canser yn Jacksonville, Florida.
Nod y gronfa ydy gwneud yn siwr y gall y teulu cyfan fynd i'r Unol Daleithiau er mwyn iddo barhau gyda'i driniaeth yno.
Jac Bach
Roedd y gronfa'n llewyrchus yn barod, ac wedi hel 拢10,000 wedi i gyd-ddisgyblion a chyfellion Owen gynnal nifer o weithgareddau yn yr ysgol.
Ond nos Iau, daeth galwad ff么n annisgwyl gan Sian Gimblet - hi ddechreuodd elusen .
Fe gollodd Sian ei mab, Jac yn 2015, a sefydlodd yr elusen er cof amdano, er mwyn helpu teuluoedd 芒 phlant difrifol wael.
Wedi iddi weld stori Owen ar wefannau cymdeithasol, fe gysylltodd 芒'r ysgol a chynnig 拢15,000 i'r gronfa.
Yn 么l Sian "dyna brif bwrpas yr elusen".
"Dyna o'n i moyn wneud pan sefydlon ni fe, achos bo' ni wedi bod mewn sefyllfa fel 'na'n hunen.
"Ni'n gw'bod pa mor anodd yw e i ga'l arian jysd i fyw bywyd pob dydd heb son am fynd i ga'l triniaeth i ben draw'r byd.
"Ni'n rili chuffed ein bod ni'n gallu helpu teulu mor lovely i alluogi iddyn nhw wneud beth sydd angen ei wneud."
Er rhodd hael elusen Jac Bach, parhau mae'r ymdrech i godi arian i gronfa Owen, ac yn 么l dirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Alan Williams, mae'r targed yn codi o hyd.
"Roedd y targed gwreiddiol yn 拢15,000... Mae'r targed rwan wedi codi i 拢30,000, felly mae'r holl beth yn dal i dyfu."
'Newyddion ardderchog'
Mae rhai o gyfeillion agosaf Owen ymhlith y rhai fu'n rhan o'r ymdrech i sefydlu'r gronfa, ac yn 么l Jac, sy'n yr un flwyddyn ag Owen yn yr ysgol, "mae'n newyddion ardderchog, oherwydd 'tase hyn heb ddigwydd, bydde'n rhaid iddo fe sefyll ar ei ben ei hun drwy hyn i gyd".
"Drwy godi'r arian, mae ei deulu'n gallu bod allan 'na gyda fe i gadw cwmni. Mae'n rhoi hwb ychwanegol i helpu fe wthio drwy hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018