Rhun ap Iorwerth: Her i arweinyddiaeth Wood yn 'anochel'
- Cyhoeddwyd
Roedd her i Leanne Wood yn anochel, yn 么l un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth Newyddion 9 y gallai uno'r blaid a'i miniogi fel peiriant etholiadol.
"Mi fyddai unrhyw un fyddai wedi fy ngweld i ar wyliau gyda'r teulu yn sgwennu erthyglau papurau newydd ar draeth ym mis Awst yn gweld nad oeddwn i wedi cynllunio ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth," meddai Mr ap Iorwerth.
"Mi oeddwn i wedi cael trafodaethau gyda chymaint o aelodau ag oeddwn i'n gallu n么l ym mis Mehefin a Gorffennaf.
"Mi ddaeth yr ateb yn glir iawn i fi."
'Adeiladu cynghrair'
Dywedodd fod pobl wedi gofyn iddo gynnig ei hun fel ymgeisydd er mwyn gallu "uno'r blaid" a'i throi yn "beiriant etholiadol siarp".
"Roedd hi'n anochel y byddwn i'n rhoi fy enw yn yr het," meddai.
Yn 么l Aelod Cynulliad Ynys M么n, bydd aelodau Plaid Cymru'n cael y gair olaf ar unrhyw gydweithio gyda phleidiau eraill pe bai'n ennill yr ornest.
Dywedodd: "Dwi yn un sydd yn credu bod angen adeiladu'r gynghrair fwyaf posib o fewn Plaid Cymru.
"Mae angen ymestyn llaw i gymaint o bobl 芒 phosib i greu Cymru yn genedl all sefyll ar ei thraed ei hun.
Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn dymuno clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr na'r Blaid Lafur.
"Mi fydd yn rhaid i aelodau Plaid Cymru benderfynu ar y math o natur anffurfiol, gobeithio, lle bydd 'na gydweithio'n digwydd gydag un blaid neu ddwy neu fwy i gael y sefydlogrwydd i ni lywodraethu."
Mae'r cyn-newyddiadurwr yn dweud bod angen i Blaid Cymru newid g锚r er mwyn gwrthbrofi'r canfyddiad fod y blaid yn parhau i fod yn un i siaradwyr Cymraeg.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai Plaid Cymru'n gallu ennill etholiad 2021 gyda Leanne Wood fel arweinydd, dywedodd: "Mae'r neges wedi dod yn glir i mi gan yr aelodau y gallen ni fod mewn sefyllfa llawer cryfach o gael newid."
Bydd y canlyniad y ras arweinyddol, sydd hefyd yn cynnwys Ms Wood ac Adam Price, yn cael ei gyhoeddi ar 28 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018