Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Leanne Wood: 'Tir canol gwleidyddol ddim yn atyniadol'
- Awdur, Aled ap Dafydd
- Swydd, Prif Ohebydd Newyddion 9
Dyw'r tir canol yng ngwleidyddiaeth Cymru ddim yn fan atyniadol i fod ynddo, medd arweinydd Plaid Cymru.
Wrth siarad 芒 Newyddion9 dywedodd Leanne Wood ei bod wedi'i synnu bod yna her i'w harweinyddiaeth gan Adam Price a Rhun ap Iorwerth.
Dywedodd Ms Wood: "Mae'r tir canol yng Nghymru yn cael ei ddal gan Lafur a phan mae pobl yn siarad 芒 fi am ddod yn fwy canolog dwi'n meddwl am y Democratiaid Rhyddfrydol a Tony Blair.
"Dyw e ddim yn fan atyniadol i fod ynddo ac mae'n fan poblog."
Cyflwynodd y ddau ymgeisydd arall eu henwau am yr arweinyddiaeth oriau cyn oedd disgwyl i'r enwebiadau ddod i law ym mis Gorffennaf.
'Synnu bod her'
Pan ofynnwyd i Ms Wood a oedd hi wedi'i synnu fod yna her i'w harweinyddiaeth, dywedodd: "Mae'r rhan fwyaf o heriau yn seiliedig ar wleidyddiaeth a pholisi ac felly mae'n debyg fy mod i wedi cael fy synnu."
Wrth gael ei holi am ba bolis茂au roedd eu gwrthwynebwyr yn anghytuno 芒 nhw dywedodd AC Rhondda ac arweinydd Plaid Cymru ers 2012: "Does neb erioed wedi dweud wrthyf fod y polis茂au sydd gennym o fewn y blaid yn rhai problematig.
"Felly mi fyddwn yn herio unrhyw un i ddweud sut rwyf wedi cyfeirio'r blaid i gyfeiriad arbennig.
"Cyn belled 芒 dwi'n gwybod does yna ddim anhapusrwydd am ein rhaglen - rhaglen waith a gafodd ei rhoi at ei gilydd gan Adam Price cyn yr etholiad."
'Dim cytundeb'
Dywedodd Leanne Wood ymhellach "ei bod hi'n bosib" y bydd Mr Price a Mr ap Iorwerth yn dod i gytundeb 芒'r Ceidwadwyr wedi etholiad 2021.
Ychwanegodd: "Os yw pobl yn fodlon pleidleisio ar gyfer ymgeisydd a fyddai'n Brif Weinidog Plaid Cymru fel y gwnaethon nhw o'r blaen neu os ydynt yn fodlon pleidleisio dros ein rhaglen mewn llywodraeth neu ein cyllideb - yna dwi'n fwy na bodlon i dderbyn y pleidleisiau.
"Mi fydd y pleidleisiau hynny yn cael eu cymryd ar delerau Plaid Cymru ac nid wrth wrth lunio cytundebau, yn enwedig gyda'r Ceidwadwyr."
Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 28 Medi.