Ymchwiliadau gollwng gwybodaeth 'ddim yn dwyn ffrwyth'
- Cyhoeddwyd
Dim ond un o'r naw ymchwiliad i ollwng gwybodaeth a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf sydd wedi dod o hyd i'r ffynhonnell, yn 么l ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan 91热爆 Cymru.
Mewn un achos, cymerwyd camau disgyblu yn erbyn aelod o staff.
Mewn chwe achos ni chafwyd hyd i'r ffynhonnell, ac mewn dau achos daeth ymchwiliadau i'r casgliad na chafodd unrhyw wybodaeth ei datgelu heb awdurdod.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru 芒 gwneud sylw.
Y llynedd daeth ymchwiliad i honiadau bod gwybodaeth am ddiswyddiad Carl Sargeant wedi ei rhyddhau i'r cyfryngau i'r casgliad oedd nad oedd tystiolaeth bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau gwybodaeth o flaen llaw am ad-drefnu'r cabinet a diswyddiad Mr Sargeant yn answyddogol.
Mae pennaeth y gwasanaeth sifil wedi gwrthod cyhoeddi'r adroddiad.
Y llynedd hefyd ni chafwyd hyd i'r sawl a ollyngodd wybodaeth ariannol am y dyn busnes y tu 么l i Gylchffordd Cymru.
Cafodd ymchwiliad mewnol ei lansio ar 么l adroddiad yn y Western Mail yn cyhoeddi faint y byddai Michael Carrick yn ei ennill petai'r cynllun wedi digwydd.
Yn ddiweddarach, dywedodd Michael Carrick wrth y 91热爆 y byddai wedi derbyn 拢1.7m pe bai'r prosiect wedi'i gwblhau.
Cymerwyd y camau disgyblu yn erbyn aelod o staff yn 2016 yn dilyn gollwng gwybodaeth ynghylch "" y llywodraeth, oedd yn cynnwys cynlluniau i alluogi cleifion i ymgynghori 芒'u meddyg teulu gan ddefnyddio ff么n symudol.
Wnaethon nhw ddim dod o hyd i'r sawl a ollyngodd wybodaeth mewn dau achos yn 2013 - y cyntaf yn ymwneud 芒 phenderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd am 拢52m.
Roedd yr ail ynghylch Nodyn Cyngor Technegol diwygiedig TAN 20, sef canllawiau oedd yn ceisio sicrhau bod "awdurdodau cynllunio yn gallu defnyddio eu Cynlluniau Datblygu Lleol i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y Gymraeg".
Daeth ymchwiliad yn 2011 i'r casgliad na chafodd unrhyw wybodaeth ei datgelu heb awdurdod ar 么l i undeb llafur honni bod gwas sifil wedi'i atal o'r gwaith am ddatgelu cynigion i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru.
Ni chafwyd hyd i'r ffynhonnell eto yn dilyn adroddiad ar WalesOnline y byddai cwmni cydrannau ceir o Japan, Toyoda Gosei, yn creu 600 o swyddi yng Nghymru.
Profodd dau ymchwiliad arall yn ddiffrwyth yn 2009, wedi adroddiad yn y Western Mail bod cais gan brif weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru, Dr Huw Jones, am "godiad cyflog o 11%" wedi cael ei wrthod, a hefyd ynghylch cais gan y llywodraeth am fwy o bwerau i ddeddfu i hyrwyddo'r Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2017