91热爆

Rhybudd fod ymwelwyr ag Ynys Sgomer yn peryglu'r palod

  • Cyhoeddwyd
Aderyn y pal

Mae yna rybudd i ymwelwyr ag Ynys Sgomer gymryd mwy o ofal wrth geisio ffilmio'r palod yno.

Dywedodd wardeiniaid fod rhai pobl yn rhwystro'r adar rhag dychwelyd i'w nythod, ac yn yr achosion mwyaf difrifol yn camu ar y nythod hynny wrth geisio tynnu lluniau.

Mae'r ynys oddi ar arfordir Sir Benfro yn gartref i ddegau o filoedd o'r anifeiliaid.

Ond mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, sy'n rheoli Sgomer, wedi dweud eu bod yn cael trafferthion gyda rhai ymwelwyr.

'Hawdd eu lladd'

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ofalus iawn, ond rydyn ni'n cael rhai problemau, yn enwedig os yw pobl yn mynd oddi ar y llwybrau," meddai Rebecca Vincent o'r Ymddiriedolaeth.

"Mae hynny'n gallu achosi i nythod ddisgyn, ac o bosib lladd unrhyw balod sydd y tu mewn.

"Rydyn ni hefyd yn cael nifer fawr o ffotograffwyr a chriwiau ffilmio ar yr ynys sy'n dewis un safle am y diwrnod cyfan ac yn meddwl fod y palod yn sefyll yno iddyn nhw, pan maen nhw mewn gwirionedd yn rhwystro'r fynedfa i'w nythod, efallai'n eu hatal rhag bwydo'u cywion."

Yn yr achosion mwyaf difrifol, meddai, mae aelodau staff wedi cael eu sarhau ar 么l ceisio annog pobl i symud o'r neilltu.

Yn y rhan fwyaf o'r DU ac Ewrop, mae niferoedd adar sydd dan fygythiad yn gostwng, ond mae poblogaeth palod Sgomer wedi cynyddu bron i bedair gwaith y maint mewn 30 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae degau ar filoedd o balod yn nythu ar Ynys Sgomer bob blwyddyn

Dywedodd wardeiniaid fod gan ymwelwyr ran bwysig i'w chwarae wrth gyllido a hyrwyddo'r gwaith cadwraeth ar yr ynys, ond bod hefyd angen iddyn nhw gymryd gofal wrth dynnu lluniau o'r bywyd gwyllt.

"Mae llawer o'r ynys yn gallu edrych fel llystyfiant a gwyrddni, ond o dan bron y cyfan o hynny mae nythod gydag adar ynddyn nhw," meddai Swyddog Ymweld Sgomer, Sarah Parmor.

"Mae'n gallu bod yn hawdd iawn lladd neu anafu un o'r adar yn anfwriadol os 'dych chi'n camu oddi ar y llwybrau o gwmpas yr ynys, hyd yn oed am eiliad.

"Mae'n gallu bod yn her fawr weithiau - 'dyn ni'n cael hyd at 250 o ymwelwyr y dydd, ond dim ond tua 12 o staff a gwirfoddolwyr sydd ar yr ynys ar y pryd.

"Yn amlwg, rydyn ni angen pobl i fod yn ymwybodol o'r effaith y gallen nhw ei gael, ac i fod mor ofalus 芒 phosib.

"Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau'r ynys cymaint 芒 phosib, heb gael effaith ar fywyd gwyllt."